Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2023

Cyhoeddwyd 21 June 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £286,489

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 150.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2023 am 9.30am ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU oedd 3.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023, o’i gymharu â 4.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.

Y pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £286,000 yn Ebrill 2023, sy’n £9,000 yn uwch na 12 mis yn ôl, ond £7,000 yn is na’r brig diweddar ym Medi 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y 12 mis i £306,000 (3.7%) yn Lloegr, i £213,000 yng Nghymru (2.0%), i £187,000 yn yr Alban (2.0%) ac i £172,000 yng Ngogledd Iwerddon (5.0%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Roedd chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 5.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 2.4% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ebrill 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) leihad yn y galw. Pan gaiff ei dadagregu, mae bron pob rhan o’r DU wedi cofnodi naill ai duedd negyddol neu wastad yn y galw gan brynwyr tai, ac eithrio Gogledd Iwerddon lle cofnodwyd ychydig bach o gynnydd.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 1 fod gweithgarwch yn y farchnad eilaidd a cheisiadau am brisiadau wedi cynyddu’n gymedrol, ond nododd fod y galw yn debyg yn fras i’r cyflenwad o eiddo sydd ar gael.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 82,120. Mae hyn 25.1% yn is na 12 mis yn ôl (Ebrill 2022). Rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023, lleihaodd trafodion yn y DU gan 7.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ebrill 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau i 48,700 yn Ebrill 2023, o 51,500 ym Mawrth 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023, i lawr o 4.1% ym Mawrth 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 3.7%.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £212,834 -1.3% 2.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) £172,005 -1.8% 5.0%
Lloegr £305,731 0.5% 3.7%
Yr Alban £187,150 1.3% 2.0%
De Ddwyrain Lloegr £391,766 -0.5% 3.5%
De Orllewin Lloegr £327,144 0.2% 4.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £247,634 0.3% 4.6%
Dwyrain Lloegr £351,468 -0.4% 3.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £246,765 0.8% 3.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £159,900 1.8% 5.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £212,814 0.7% 4.8%
Llundain £533,687 2.1% 2.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £205,523 1.0% 4.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Mawrth 2022 ac Ebrill 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2023 Ebrill 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £453,771 £435,539 4.2%
Tŷ pâr £278,729 £266,838 4.5%
Tŷ teras £231,525 £226,660 2.1%
Fflat neu fflat deulawr £229,752 £223,686 2.7%
Holl £286,489 £276,917 3.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Chwefror 2023 Chwefror 2022
Lloegr 35,843 58,578
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) 1,427 1,953
Yr Alban 5,365 6,547
Cymru 2,001 3,423

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 19.0% yn Lloegr, lleihaodd gan 16.6% yn yr Alban, a lleihaodd gan 25.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 21.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 19.8% yn Lloegr, wedi lleihau gan 26.7% yng Nghymru, wedi lleihau gan 16.7% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 23.6% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Chwefror

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 19.1%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 20.1% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £419,943 8.6% 23.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £279,734 -0.8% 4.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £238,114 0.6% 3.3%
Cyn berchen-feddiannydd £336,056 0.5% 3.7%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £271,170 0.6% 3.1%
Morgais £299,022 0.5% 3.7%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915