Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2023
Cyhoeddwyd 21 Mehefin 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £212,834
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2022 am 9.30am ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023. Roedd hyn i lawr o 5.5% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 3.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023, o’i gymharu â chynnydd o 2.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 25.2% yng Nghymru a chan 19.1% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 19 awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Merthyr Tudful, gan godi 11.6% i £162,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023. Mewn cyferbyniad, Ynys Môn welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 3.1% i £225,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.
Yng Nghymru, dangosodd tai pâr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 3.2% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023 i £208,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan godi 1.0% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023, i’r pris cyfartalog o £164,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023, i lawr o 5.5% ym Mawrth 2023.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Ebrill 2023 | Ebrill 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £189,340 | £186,601 | 1.5% |
Blaenau Gwent | £128,603 | £125,873 | 2.2% |
Bro Morgannwg | £315,775 | £299,352 | 5.5% |
Caerdydd | £265,652 | £250,606 | 6% |
Caerffili | £182,182 | £170,920 | 6.6% |
Casnewydd | £234,827 | £225,349 | 4.2% |
Castell-nedd Port Talbot | £165,804 | £149,216 | 11.1% |
Ceredigion | £243,627 | £249,900 | -2.5% |
Conwy | £214,413 | £206,244 | 4% |
Gwynedd | £200,961 | £206,542 | -2.7% |
Merthyr Tudful | £161,638 | £144,774 | 11.6% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £206,688 | £193,906 | 6.6% |
Powys | £248,696 | £235,583 | 5.6% |
Rhondda Cynon Taf | £151,623 | £145,677 | 4.1% |
Sir Benfro | £237,425 | £231,644 | 2.5% |
Sir Ddinbych | £200,852 | £191,350 | 5% |
Sir Fynwy | £362,142 | £338,163 | 7.1% |
Sir y Fflint | £218,463 | £203,301 | 7.5% |
Sir Gaerfyrddin | £205,971 | £196,836 | 4.6% |
Torfaen | £203,836 | £186,435 | 9.3% |
Wrecsam | £206,116 | £193,111 | 6.7% |
Ynys Môn | £225,343 | £232,599 | -3.1% |
Cymru | £212,834 | £208,620 | 2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Ebrill 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £362,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £129,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Ebrill 2023 | Ebrill 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £328,628 | £321,547 | 2.2% |
Tŷ pâr | £208,033 | £201,573 | 3.2% |
Tŷ teras | £163,980 | £162,320 | 1.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £134,725 | £132,528 | 1.7% |
Holl | £212,834 | £208,620 | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Chwefror 2023 | Chwefror 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 125 | 257 |
Blaenau Gwent | 37 | 90 |
Bro Morgannwg | 98 | 137 |
Caerdydd | 223 | 372 |
Caerffili | 108 | 165 |
Casnewydd | 138 | 192 |
Castell-nedd Port Talbot | 92 | 127 |
Ceredigion | 40 | 85 |
Conwy | 102 | 179 |
Gwynedd | 83 | 140 |
Merthyr Tudful | 23 | 67 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 118 | 162 |
Powys | 81 | 130 |
Rhondda Cynon Taf | 147 | 297 |
Sir Benfro | 95 | 147 |
Sir Ddinbych | 64 | 119 |
Sir Gaerfyrddin | 122 | 194 |
Sir Fynwy | 54 | 109 |
Sir y Fflint | 83 | 145 |
Torfaen | 58 | 93 |
Wrecsam | 72 | 119 |
Ynys Môn | 38 | 97 |
Cymru | 2,001 | 3,423 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 25.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 26.7% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Chwefror 2019 | 3,207 |
Chwefror 2020 | 3,168 |
Chwefror 2021 | 3,799 |
Chwefror 2022 | 3,423 |
Chwefror 2023 | 2,001 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Chwefror 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £351,241 | 12.3% | 28.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,160 | -0.2% | 6.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ebrill 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,661 | -1.3% | 1.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £248,606 | -1.3% | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ebrill 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,168 | -1.4% | 1.0% |
Morgais | £217,228 | -1.2% | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2023 |
---|---|
Cymru | 10 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288