Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2023
Cyhoeddwyd 18 Hydref 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £217,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.1%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 159.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2023 am 9.30am ddydd Mercher 15 Tachwedd 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2023. Roedd hyn i lawr o’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog o 0.5% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023 ac roedd yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 0.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2023, cynyddodd nifer y trafodion gan 8.7% yng Nghymru, a chafwyd gostyngiad o 3.2% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 11 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Mro Morgannwg, gan godi 8.0% i £330,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2023. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 7.5% i £225,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2023.
Yng Nghymru, dangosodd fflatiau a fflatiau deulawr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 0.5% yn y 12 mis hyd at Awst 2023 i £137,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan ostwng 0.5% yn y 12 mis hyd at Awst 2023, i’r pris cyfartalog o £169,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Awst 2023, i lawr o gynnydd mewn prisiau cyfartalog o 0.5% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Awst 2023 | Awst 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £191,000 | £194,000 | -1.1% |
Blaenau Gwent | £124,000 | £133,000 | -6.9% |
Bro Morgannwg | £330,000 | £306,000 | 8% |
Caerdydd | £264,000 | £258,000 | 2.6% |
Caerffili | £189,000 | £187,000 | 1.2% |
Casnewydd | £237,000 | £231,000 | 2.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £164,000 | £162,000 | 0.9% |
Ceredigion | £257,000 | £250,000 | 2.9% |
Conwy | £218,000 | £219,000 | -0.6% |
Gwynedd | £210,000 | £211,000 | -0.3% |
Merthyr Tudful | £157,000 | £152,000 | 3.2% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £206,000 | £207,000 | -0.3% |
Powys | £244,000 | £250,000 | -2.4% |
Rhondda Cynon Taf | £159,000 | £157,000 | 1.1% |
Sir Benfro | £225,000 | £244,000 | -7.5% |
Sir Ddinbych | £200,000 | £204,374 | -2.2% |
Sir Fynwy | £361,000 | £345,000 | 4.5% |
Sir y Fflint | £218,000 | £210,000 | 3.6% |
Sir Gaerfyrddin | £203,000 | £203,000 | -0.1% |
Torfaen | £201,000 | £197,000 | 1.9% |
Wrecsam | £196,000 | £207,000 | -5.3% |
Ynys Môn | £237,000 | £240,000 | -1.3% |
Cymru | £217,000 | £217,000 | -0.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £361,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £124,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Awst 2023 | Awst 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £332,000 | £332,000 | -0.1% |
Tŷ pâr | £211,000 | £210,000 | 0.4% |
Tŷ teras | £169,000 | £170,000 | -0.5% |
Fflat neu fflat deulawr | £137,000 | £136,000 | 0.5% |
Holl | £217,000 | £217,000 | -0.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Mehefin 2023 | Mehefin 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 174 | 229 |
Blaenau Gwent | 52 | 79 |
Bro Morgannwg | 108 | 170 |
Caerdydd | 283 | 351 |
Caerffili | 104 | 174 |
Casnewydd | 126 | 175 |
Castell-nedd Port Talbot | 119 | 147 |
Ceredigion | 43 | 58 |
Conwy | 117 | 152 |
Gwynedd | 102 | 116 |
Merthyr Tudful | 38 | 58 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 130 | 173 |
Powys | 99 | 133 |
Rhondda Cynon Taf | 213 | 287 |
Sir Benfro | 92 | 127 |
Sir Ddinbych | 80 | 103 |
Sir Gaerfyrddin | 156 | 164 |
Sir Fynwy | 67 | 126 |
Sir y Fflint | 108 | 153 |
Torfaen | 64 | 110 |
Wrecsam | 86 | 98 |
Ynys Môn | 42 | 62 |
Cymru | 2,403 | 3,245 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023, cynyddodd nifer y trafodion gan 8.7% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 3.7% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mehefin 2019 | 3,997 |
Mehefin 2020 | 2,013 |
Mehefin 2021 | 6,371 |
Mehefin 2022 | 3,245 |
Mehefin 2023 | 2,403 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £338,000 | 5.2% | 21.9% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £208,000 | 0.2% | 0.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £186,000 | 0.0% | -0.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £253,000 | -0.2% | 0.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Awst 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £209,000 | -0.2% | -0.7% |
Morgais | £221,000 | -0.1% | 0.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2023 |
---|---|
Cymru | 10 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288