Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024

Cyhoeddwyd 16 October 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £293,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.8%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 153.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2024 am 9.30am ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

2.8% oedd y chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog yn y DU yn y 12 mis hyd at Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.8% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.

£293,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2024 yn Lloegr i £310,000 (2.3%), cynyddodd yng Nghymru i £223,000 (3.5%) a chynyddodd yn yr Alban i £200,000 (5.4%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn fwy cyflym rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024 (1.5%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (0.5%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.6% yn y 12 mis hyd at Awst 2024. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Awst 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd a gwerthiannau a gytunwyd wedi cynyddu yn Awst, a bod y llif o restriadau newydd yn parhau i fod yn arwydd o duedd gadarnhaol. Adroddodd RICS hefyd er bod y rhan fwyaf o ardaloedd y DU yn dangos naill ai darlun gwastad neu weddol cadarnhaol erbyn hyn ar gyfer prisiau tai, mae rhai eithriadau megis yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd wedi bod yn codi’n gadarn.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2024 Chwarter 2 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn sefydlog o ran nifer y trafodion a lefel y galw.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 90,000. Mae hyn 5.4% yn uwch na 12 mis yn ôl (Awst 2023). Rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024, lleihaodd trafodion y DU gan 0.4% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Awst 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 2,400 i 64,900 yn Awst 2024, y lefel uchaf er Awst 2022 (72,000).

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

£293,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2024 yn Lloegr i £310,000 (2.3%), cynyddodd yng Nghymru i £223,000 (3.5%) a chynyddodd yn yr Alban i £200,000 (5.4%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £222,925 2.6% 3.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2024) £185,025 3.6% 6.4%
Lloegr £309,572 1.6% 2.3%
Yr Alban £199,971 1.2% 5.4%
De Ddwyrain Lloegr £384,804 1.4% 1.6%
De Orllewin Lloegr £320,774 0.3% 0.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £250,229 1.4% 2.1%
Dwyrain Lloegr £344,190 1.0% 1.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £255,102 1.1% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £166,032 1.5% 1.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £225,248 2.4% 4.6%
Llundain £531,212 2.2% 1.4%
Swydd Gaerefrog a Humber £219,433 2.7% 4.4%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn fwy cyflym rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024 (1.5%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (0.5%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2024 Awst 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £443,355 £436,151 1.7%
Tŷ pâr £285,310 £275,408 3.6%
Tŷ teras £243,437 £236,337 3.0%
Fflat neu fflat deulawr £239,043 £233,036 2.6%
Holl £292,924 £285,073 2.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler Mynegai Prisiau Tai y DU Adran 2.2: Cywirdeb: Accuracy)). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (nododd CTEF ostyngiad o 22% yn 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.

Ym Mawrth 2024 ac Ebrill 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu hadolygu o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis. Yn adroddiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen. O adroddiad Hydref 2024, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn dychwelyd i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024 yn seiliedig ar oddeutu 35,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,600 ar gyfer yr Alban, a 1,900 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 35% o amcangyfrif gwerthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2024, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth o £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod adolygu a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau posibl yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, cwmni neu fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Mehefin 2024 Mehefin 2023
Lloegr 27,427 56,427
Gogledd Iwerddon 1,688 1,740
Yr Alban 8,493 9,380
Cymru 1,599 3,210

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 7.9% yn yr Alban, a lleihaodd gan 33.5% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2024.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 4.0% yn Lloegr, 8.1% yn yr Alban, 3.6% yng Nghymru a 9.8% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Mehefin

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 25.0%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Gyllid a Thollau EF yn y DU wedi lleihau gan 4.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2024 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £417,612 -0.8% 25.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £282,024 0.5% 1.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £246,576 2.0% 3.4%
Cyn berchen-feddiannydd £338,048 1.1% 2.1%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Awst 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £276,805 1.5% 2.1%
Morgais £305,429 1.6% 3.1%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991