Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2023

Cyhoeddwyd 14 February 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £284,691

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.4%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.1%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 149.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2024 am 9.30am ddydd Mercher 20 Mawrth 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn negyddol 1.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023, o’i gymharu â negyddol 2.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

£285,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Rhagfyr 2023 (amcangyfrif dros dro), sy’n £4,000 yn is na 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 yn Lloegr i £302,000 (negyddol 2.1%), gostyngodd yng Nghymru i £214,000 (negyddol 2.5%) a chynyddodd yn yr Alban i £190,000 (3.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023 i £178,000 yng Ngogledd Iwerddon (1.4%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023, o’i gymharu â gostyngiad o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.2% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 4.8% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Rhagfyr 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad yn y galw gan brynwyr er bod y metrig hwn wedi bod yn llai negyddol ym mhob un o’r pedwar mis blaenorol. O ran cyflenwad, cafodd tuedd sefydlog gyffredinol ei hadrodd ar gyfer cyfarwyddiadau newydd dros y mis. Fodd bynnag, mae lefelau stoc cyfredol yn parhau’n isel o edrych arnynt mewn cymhariaeth hanesyddol tymor hwy.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 4 welliant graddol yn y farchnad dros y mis, sy’n debygol o gael ei yrru gan y tawelu parhaus mewn cyfraddau llog morgeisi.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Rhagfyr 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 80,420. Mae hyn 17.8% yn is na 12 mis yn ôl (Rhagfyr 2022). Rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023, lleihaodd trafodion y DU gan 0.8% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Rhagfyr 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 50,500 yn Rhagfyr 2023, o 49,300 yn Nhachwedd 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023, i fyny o ostyngiad o 2.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 3.3%.

Yn Lloegr, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 2.1% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 2.5% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 1.4% yn y 12 mis hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £213,816 0.9% -2.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2023) £177,611 -0.9% 1.4%
Lloegr £302,164 0.2% -2.1%
Yr Alban £190,341 -0.9% 3.3%
De Ddwyrain Lloegr £377,162 -1.9% -4.6%
De Orllewin Lloegr £318,966 -0.5% -2.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £248,390 1.6% -1.0%
Dwyrain Lloegr £342,489 -0.5% -3.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £252,532 2.6% 0.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £157,557 -1.2% -0.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £218,353 2.5% 1.2%
Llundain £508,037 0.0% -4.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £207,501 0.1% -1.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023, o’i gymharu â gostyngiad o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Tachwedd 2022 a Rhagfyr 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2023 Rhagfyr 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £447,076 £450,562 -0.8%
Tŷ pâr £280,024 £280,548 -0.2%
Tŷ teras £232,113 £238,063 -2.5%
Fflat neu fflat deulawr £224,757 £230,014 -2.3%
Holl £284,691 £288,744 -1.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 22% yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd cronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am fisoedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, gwnaed gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, a oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddwyd prosesu Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu o’r rhyddhau ar 14 Chwefror 2024.

Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Hydref 2023 Hydref 2022
Lloegr 37,026 67,264
Gogledd Iwerddon 1,773 2,242
Yr Alban 7,722 9,184
Cymru 2,119 3,921

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2022 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.3% yn Lloegr, gan 13.7% yn yr Alban a chan 29.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 13.4% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Hydref 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 18.3% yn Lloegr, gan 15.3% yn yr Alban, gan 20.7% yng Nghymru a chan 16.5% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Hydref

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 26.7%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 18.1% yn y 12 mis hyd at Hydref 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Hydref 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £389,716 1.2% 9.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £280,889 -0.2% -1.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £237,655 0.7% -1.4%
Cyn berchen-feddiannydd £331,686 -0.5% -1.7%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £268,346 -0.2% -1.9%
Morgais £297,185 0.3% -1.3%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Gorffennaf a Medi 2023 cafwyd 182,888 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – 9,304 o eiddo wedi eu prynu
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,470 o eiddo wedi eu prynu
  • Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 1025 o eiddo wedi eu prynu
  • Gogledd Iwerddon oedd £150,000 i £174,999 – 807 o eiddo wedi eu prynu

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2023 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data ar gyfer Prydain Fawr wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Mae’r data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £500,000, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy ar gyfer dros £500,000.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael eu cynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991