Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2023
Cyhoeddwyd 14 Chwefror 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,816
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 157.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2024 am 9.30am ddydd Mercher 20 Mawrth 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.5% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 2.9% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 1.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.2% yng Nghymru a lleihaodd gan 26.7% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 5 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Mro Morgannwg, gan godi 4.7% i £323,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 11.4% i £233,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.
Yng Nghymru, dangosodd tai pâr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan ostwng 1.2% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 i £210,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan ostwng 3.4% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023, i’r pris cyfartalog o £166,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 2.5% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 2.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2023 | Rhagfyr 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £196,029 | £194,386 | 0.8% |
Blaenau Gwent | £130,743 | £135,043 | -3.2% |
Bro Morgannwg | £323,442 | £308,924 | 4.7% |
Caerdydd | £266,873 | £265,685 | 0.4% |
Caerffili | £185,357 | £190,635 | -2.8% |
Casnewydd | £229,808 | £239,305 | -4% |
Castell-nedd Port Talbot | £160,254 | £166,002 | -3.5% |
Ceredigion | £233,387 | £263,469 | -11.4% |
Conwy | £216,727 | £218,106 | -0.6% |
Gwynedd | £213,196 | £213,386 | -0.1% |
Merthyr Tudful | £153,057 | £154,781 | -1.1% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £203,461 | £211,914 | -4% |
Powys | £236,578 | £255,589 | -7.4% |
Rhondda Cynon Taf | £149,195 | £164,390 | -9.2% |
Sir Benfro | £244,317 | £239,512 | 2% |
Sir Ddinbych | £192,157 | £204,585 | -6.1% |
Sir Fynwy | £347,574 | £353,326 | -1.6% |
Sir y Fflint | £218,308 | £217,819 | 0.2% |
Sir Gaerfyrddin | £203,726 | £212,585 | -4.2% |
Torfaen | £186,446 | £198,840 | -6.2% |
Wrecsam | £204,487 | £206,734 | -1.1% |
Ynys Môn | £223,975 | £237,450 | -5.7% |
Cymru | £213,816 | £219,374 | -2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Rhagfyr 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £348,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £131,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Rhagfyr 2023 | Rhagfyr 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £324,797 | £333,808 | -2.7% |
Tŷ pâr | £210,322 | £212,984 | -1.2% |
Tŷ teras | £166,456 | £172,377 | -3.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £133,932 | £138,000 | -2.9% |
Holl | £213,816 | £219,374 | -2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Hydref 2023 | Hydref 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 156 | 272 |
Blaenau Gwent | 42 | 83 |
Bro Morgannwg | 81 | 172 |
Caerdydd | 220 | 563 |
Caerffili | 113 | 232 |
Casnewydd | 118 | 189 |
Castell-nedd Port Talbot | 113 | 176 |
Ceredigion | 53 | 70 |
Conwy | 97 | 164 |
Gwynedd | 87 | 147 |
Merthyr Tudful | 38 | 65 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 108 | 194 |
Powys | 88 | 147 |
Rhondda Cynon Taf | 156 | 302 |
Sir Benfro | 111 | 174 |
Sir Ddinbych | 72 | 109 |
Sir Gaerfyrddin | 128 | 225 |
Sir Fynwy | 54 | 140 |
Sir y Fflint | 97 | 174 |
Torfaen | 48 | 101 |
Wrecsam | 93 | 127 |
Ynys Môn | 46 | 95 |
Cymru | 2,119 | 3,921 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 20.7% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Hydref 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Hydref 2019 | 4,294 |
Hydref 2020 | 4,200 |
Hydref 2021 | 4,155 |
Hydref 2022 | 3,921 |
Hydref 2023 | 2,119 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £315,422 | 1.2% | 8.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £209,484 | -0.4% | -3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £184,664 | 1.3% | -2.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £247,951 | 0.5% | -2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,102 | -0.1% | -3.4% |
Morgais | £218,736 | 1.4% | -2.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2023 |
---|---|
Cymru | 2 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288