Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2024
Cyhoeddwyd 19 Chwefror 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £208,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.5%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 103.1
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2025 am 9.30am ddydd Mercher 26 Mawrth 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, i £208,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 3.7% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 4.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024, cynyddodd nifer y trafodion gan 18.7% yng Nghymru a chynyddodd gan 23.7% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 9.2% i £140,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 5.2% i £193,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024.
Yng Nghymru, tai pâr a thai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.6% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, i’r pris cyfartalog o £206,000 a £166,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 1.9% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, i’r pris cyfartalog o £325,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 3.7% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2024 | Rhagfyr 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £202,489 | £193,023 | 4.9% |
Blaenau Gwent | £140,057 | £128,228 | 9.2% |
Bro Morgannwg | £285,830 | £278,310 | 2.7% |
Caerdydd | £275,931 | £261,221 | 5.6% |
Caerffili | £193,077 | £181,521 | 6.4% |
Casnewydd | £219,587 | £215,109 | 2.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £157,315 | £155,249 | 1.3% |
Ceredigion | £235,575 | £241,327 | -2.4% |
Conwy | £204,843 | £206,141 | -0.6% |
Gwynedd | £192,885 | £203,367 | -5.2% |
Merthyr Tudful | £145,947 | £143,898 | 1.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £212,106 | £197,567 | 7.4% |
Powys | £229,460 | £230,110 | -0.3% |
Rhondda Cynon Taf | £157,903 | £145,060 | 8.9% |
Sir Benfro | £219,598 | £216,151 | 1.6% |
Sir Ddinbych | £186,560 | £184,876 | 0.9% |
Sir Fynwy | £327,865 | £323,159 | 1.5% |
Sir y Fflint | £214,062 | £208,271 | 2.8% |
Sir Gaerfyrddin | £197,925 | £187,249 | 5.7% |
Tor-faen | £188,435 | £187,043 | 0.7% |
Wrecsam | £205,060 | £196,260 | 4.5% |
Ynys Môn | £221,498 | £233,320 | -5.1% |
Cymru | £208,197 | £202,077 | 3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Rhagfyr 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £328,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £140,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Rhagfyr 2024 | Rhagfyr 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £324,878 | £318,954 | 1.9% |
Tŷ pâr | £206,496 | £199,402 | 3.6% |
Tŷ teras | £165,924 | £160,148 | 3.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £131,943 | £129,018 | 2.3% |
Holl | £208,197 | £202,077 | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Hydref 2024 | Hydref 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 183 | 225 |
Blaenau Gwent | 43 | 72 |
Bro Morgannwg | 124 | 136 |
Caerdydd | 307 | 366 |
Caerffili | 127 | 166 |
Casnewydd | 118 | 180 |
Castell-nedd Port Talbot | 88 | 150 |
Ceredigion | 62 | 66 |
Conwy | 145 | 130 |
Gwynedd | 129 | 111 |
Merthyr Tudful | 25 | 54 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 133 | 166 |
Powys | 97 | 109 |
Rhondda Cynon Taf | 182 | 234 |
Sir Benfro | 97 | 152 |
Sir Ddinbych | 93 | 96 |
Sir Gaerfyrddin | 142 | 178 |
Sir Fynwy | 67 | 77 |
Sir y Fflint | 145 | 147 |
Torfaen | 50 | 89 |
Wrecsam | 96 | 128 |
Ynys Môn | 62 | 61 |
Cymru | 2,515 | 3,093 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024, cynyddodd nifer y trafodion gan 18.7% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 20.0% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Hydref 2020 | 4,200 |
Hydref 2021 | 4,556 |
Hydref 2022 | 4,308 |
Hydref 2023 | 3,093 |
Hydref 2024 | 2,515 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £361,859 | -0.4% | 20.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £205,710 | 1.0% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £179,195 | -0.6% | 3.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £248,360 | -0.4% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Rhagfyr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,372 | -1.0% | 2.3% |
Morgais | £208,694 | -0.3% | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2024 |
---|---|
Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288