Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2022

Cyhoeddwyd 13 April 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £205,114

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 14.2%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 150.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2022 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mai 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 14.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 14.0% yn Ionawr 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Ionawr a Chwefror 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 0.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Ionawr a Chwefror 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 47.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 47.1% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, lle cododd 22.7% i £148,000 yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 9.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £201,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 16.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022 i £318,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 10.8% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i’r pris cyfartalog o £133,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 14.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 14.0% yn Ionawr 2022.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2022 Chwefror 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £185,164 £167,567 10.5%
Blaenau Gwent £122,221 £102,888 18.8%
Bro Morgannwg £301,218 £249,670 20.6%
Caerdydd £250,224 £224,242 11.6%
Caerffili £177,006 £151,673 16.7%
Casnewydd £223,798 £203,058 10.2%
Castell-nedd Port Talbot £154,510 £130,963 18%
Ceredigion £240,976 £204,835 17.6%
Conwy £209,880 £180,791 16.1%
Gwynedd £202,108 £175,539 15.1%
Merthyr Tudful £147,837 £120,493 22.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £190,771 £171,528 11.2%
Powys £237,610 £212,918 11.6%
Rhondda Cynon Taf £145,968 £129,228 13%
Sir Benfro £229,187 £199,902 14.6%
Sir Ddinbych £194,922 £175,948 10.8%
Sir Fynwy £336,692 £301,490 11.7%
Sir y Fflint £201,483 £184,701 9.1%
Sir Gaerfyrddin £194,890 £169,582 14.9%
Tor-faen £183,931 £165,346 11.2%
Wrecsam £197,476 £174,302 13.3
Ynys Môn £228,788 £199,987 14.4%
Cymru £205,114 £179,554 14.2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle roedd y pris cyfartalog yn £337,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd y pris cyfartalog yn £122,000.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Chwefror 2022 Chwefror 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £318,093 £272,068 16.9%
Tŷ pâr £197,867 £173,324 14.2%
Tŷ teras £158,271 £140,338 12.8%
Fflat neu fflat deulawr £133,301 £120,351 10.8%
Holl £205,114 £179,554 14.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2021 Rhagfyr 2020
Abertawe 186 347
Blaenau Gwent 50 98
Bro Morgannwg 82 245
Caerdydd 250 495
Caerffili 104 227
Casnewydd 100 244
Castell-nedd Port Talbot 91 235
Ceredigion 55 129
Conwy 105 208
Gwynedd 108 224
Merthyr Tudful 31 75
Pen-y-bont ar Ogwr 96 216
Powys 94 252
Rhondda Cynon Taf 170 366
Sir Benfro 82 219
Sir Ddinbych 58 194
Sir Gaerfyrddin 133 291
Sir Fynwy 67 150
Sir y Fflint 101 257
Tor-faen 49 160
Wrecsam 100 168
Ynys Môn 71 129
Cymru 2,183 4,929

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 47.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 15.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Rhagfyr 2017 4,659
Rhagfyr 2018 4,255
Rhagfyr 2019 4,089
Rhagfyr 2020 4,929
Rhagfyr 2021 2,183

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £283,667 -0.1% 23.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £199,044 2.2% 11.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £175,952 -0.7% 13.5%
Cyn berchen-feddiannydd £239,543 -0.6% 15.0%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Chwefror 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £198,684 -1.1% 14.1%
Morgais £208,899 -0.5% 14.3%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2021
Cymru 1

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288