Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2022

Cyhoeddwyd 23 March 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £206,251

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 13.9%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 151.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2022 am 9.30am ddydd Mercher 13 Ebrill 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 13.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i fyny o 12.4% yn Rhagfyr 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 35.3% yng Nghymru o 3,585 i 2,319. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 44.4%, o 82,412 i 45,800, dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Ionawr 2022 o’i gymharu ag Ionawr 2021. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 20.8% i £297,000 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 7.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £199,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022 i £320,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 6.8% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022 i £131,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 13.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i fyny o 12.4% yn Rhagfyr 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ionawr 2022 Ionawr 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £187,230 £166,484 12.5%
Blaenau Gwent £120,907 £101,981 18.6%
Bro Morgannwg £297,314 £246,098 20.8%
Caerdydd £243,583 £222,438 9.5%
Caerffili £171,916 £152,788 12.5%
Casnewydd £222,019 £199,830 11.1%
Castell-nedd Port Talbot £156,831 £131,729 19.1%
Ceredigion £238,864 £203,952 17.1%
Conwy £206,231 £186,188 10.8%
Gwynedd £191,727 £177,315 8.1%
Merthyr Tudful £141,892 £121,346 16.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £197,107 £172,266 14.4%
Powys £239,470 £212,111 12.9%
Rhondda Cynon Taf £141,989 £128,167 10.8%
Sir Benfro £234,796 £199,187 17.9%
Sir Ddinbych £196,593 £175,769 11.8%
Sir Fynwy £328,106 £301,720 8.7%
Sir y Fflint £198,666 £185,387 7.2%
Sir Gaerfyrddin £195,740 £167,581 16.8%
Tor-faen £184,608 £165,286 11.7%
Wrecsam £197,340 £172,081 14.7%
Ynys Môn £221,349 £198,778 11.4%
Cymru £206,251 £181,118 13.9%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ionawr 2022, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £328,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £121,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2022 Ionawr 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £319,526 £276,415 15.6%
Tŷ pâr £199,736 £175,326 13.9%
Tŷ teras £159,520 £140,081 13.9%
Fflat neu fflat deulawr £130,738 £122,374 6.8%
Holl £206,251 £181,118 13.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2021 Tachwedd 2020
Abertawe 192 295
Blaenau Gwent 56 66
Bro Morgannwg 118 253
Caerdydd 220 410
Caerffili 128 228
Casnewydd 110 208
Castell-nedd Port Talbot 99 159
Ceredigion 61 105
Conwy 104 212
Gwynedd 111 184
Merthyr Tudful 29 81
Pen-y-bont ar Ogwr 111 202
Powys 85 158
Rhondda Cynon Taf 186 313
Sir Benfro 108 166
Sir Ddinbych 81 115
Sir Gaerfyrddin 127 309
Sir Fynwy 64 128
Sir y Fflint 117 240
Tor-faen 85 116
Wrecsam 69 169
Ynys Môn 58 119
Cymru 2,319 4,236

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 35.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 1.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2017 4,474
Tachwedd 2018 5,057
Tachwedd 2019 4,494
Tachwedd 2020 4,236
Tachwedd 2021 2,319

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £294,074 4.3% 30.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £194,917 -0.8% 11.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £176,893 1.2% 13.5%
Cyn berchen-feddiannydd £240,958 1.4% 14.3%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £200,614 1.7% 13.9%
Morgais £209,658 1.1% 13.9%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2021
Cymru 3

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288