Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2023

Cyhoeddwyd 22 March 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2023

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £216,871

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 5.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 159.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2022 am 9.30am ddydd Mercher 19 Ebrill 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 5.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Roedd hyn i lawr o 10.1% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 6.3% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.3% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023, o’i gymharu â chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 28.2% yng Nghymru a chan 45.8% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Roedd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Merthyr Tudful, gan godi 16.1% i £156,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Mewn cyferbyniad, roedd y newid canrannol blynyddol lleiaf yng Nghonwy, gan gynyddu 4.6% i £220,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.

Yng Nghymru, dangosodd tai teras y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 6.4% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023 i £169,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 3.5% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023, i’r pris cyfartalog o £135,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 5.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023, i lawr o 10.1% yn Rhagfyr 2022.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ionawr 2023 Ionawr 2022 Gwahaniaeth
Abertawe £195,138 £184,803 5.6%
Blaenau Gwent £136,762 £119,971 14%
Bro Morgannwg £307,207 £289,789 6%
Caerdydd £270,356 £244,592 10.5%
Caerffili £189,699 £172,550 9.9%
Casnewydd £243,218 £219,392 10.9%
Castell-nedd Port Talbot £168,469 £154,469 9.1%
Ceredigion £262,845 £243,320 8%
Conwy £219,539 £209,853 4.6%
Gwynedd £211,247 £196,746 7.4%
Merthyr Tudful £156,446 £134,756 16.1%
Pen-y-bont ar Ogwr £203,245 £190,384 6.8%
Powys £250,089 £230,660 8.4%
Rhondda Cynon Taf £164,463 £144,127 14.1%
Sir Benfro £242,937 £231,614 4.9%
Sir Ddinbych £206,250 £196,200 5.1%
Sir Fynwy £361,603 £323,742 11.7%
Sir y Fflint £215,027 £200,077 7.5%
Sir Gaerfyrddin £217,556 £188,106 15.7%
Torfaen £199,661 £183,917 8.6%
Wrecsam £204,281 £194,994 4.8%
Ynys Môn £251,300 £220,187 14.1%
Cymru £216,871 £204,946 5.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ionawr 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £362,000 oedd pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2023 Ionawr 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £332,208 £315,842 5.2%
Tŷ pâr £211,471 £198,890 6.3%
Tŷ teras £168,941 £158,760 6.4%
Fflat neu fflat deulawr £135,249 £130,642 3.5%
Holl £216,871 £204,946 5.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2022 Tachwedd 2021
Abertawe 228 321
Blaenau Gwent 55 105
Bro Morgannwg 130 211
Caerdydd 334 426
Caerffili 148 243
Casnewydd 143 233
Castell-nedd Port Talbot 142 182
Ceredigion 48 96
Conwy 131 187
Gwynedd 147 166
Merthyr Tudful 50 75
Pen-y-bont ar Ogwr 138 222
Powys 109 156
Rhondda Cynon Taf 258 364
Sir Benfro 109 196
Sir Ddinbych 121 128
Sir Gaerfyrddin 161 226
Sir Fynwy 96 130
Sir y Fflint 145 223
Torfaen 86 148
Wrecsam 125 144
Ynys Môn 68 83
Cymru 2,972 4,265

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 28.2% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 8.1% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Tachwedd 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2018 5,057
Tachwedd 2019 4,494
Tachwedd 2020 4,236
Tachwedd 2021 4,265
Tachwedd 2022 2,972

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £342,545 6.9% 26.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £216,213 -0.7% 11.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £186,725 -2.5% 6.0%
Cyn berchen-feddiannydd £252,342 -2.1% 5.6%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £209,534 -2.4% 5.3%
Morgais £221,122 -2.3% 6.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2022
Cymru 5

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288