Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025

Cyhoeddwyd 26 Mawrth 2025

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2025

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £269,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 4.9%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 102.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2025 am 9.30am ddydd Mercher 16 Ebrill 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Mae lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn deillio o gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 set gyfeirio o eiddo, a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn. Gall y mathau o eiddo sy’n cael eu gwerthu newid dros amser, felly yn ein datganiad ar 19 Chwefror 2025, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ailgyfeirio i Ionawr 2023 fel y cyfnod sylfaen newydd. Bydd diweddaru’r set gyfeirio hon o eiddo yn sicrhau bod lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu’n well y math o eiddo sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd. Bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd y gyfres lefel prisiau yn symud i fyny neu i lawr oherwydd ailgyfeirio, ond ni fydd cyfraddau chwyddiant yn newid, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ansawdd a methodoleg CTEF.

2. Datganiad economaidd

4.6% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.

£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Rhagfyr 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £12,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024 yn Lloegr i £291,000 (4.3%), cynyddodd yng Nghymru i £208,000 (3.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £189,000 (6.9%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 i £183,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.0%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024 o’i gymharu â gostyngiad o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.7% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle roedd prisiau heb newid (0.0%) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Rhagfyr 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod y darlun ychydig yn fwy disglair a welwyd dros y misoedd diwethaf yn parhau, gyda’r rhan fwyaf o fetrigau gweithgarwch yn dal i fod yn weddol gadarnhaol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2024 Chwarter 4 Asiantau Banc Lloegr fod y cyflenwad o eiddo ar werth yn parhau i wella, ond nid yw prynwyr, yn gyffredinol, yn gweld hwn fel amser da i brynu.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Rhagfyr 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,000. Mae hyn 18.7% yn uwch na 12 mis yn ôl (Rhagfyr 2023). Rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024, cynyddodd trafodion y DU gan 2.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Rhagfyr 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 500 i 66,500 yn Rhagfyr 2024, yn dilyn gostyngiad o 2,300 yn Nhachwedd 2024.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

4.6% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.

£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Rhagfyr 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £12,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024 yn Lloegr i £291,000 (4.3%), cynyddodd yng Nghymru i £208,000 (3.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £189,000 (6.9%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 i £183,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.0%).

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £208,197 -0.5% 3.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2024) £183,259 1.5% 9.0%
Lloegr £290,564 0.0% 4.3%
Yr Alban £188,807 -0.5% 6.9%
De Ddwyrain Lloegr £383,605 0.6% 4.4%
De Orllewin Lloegr £305,843 -0.3% 3.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £242,036 0.5% 5.3%
Dwyrain Lloegr £340,385 0.6% 4.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £244,369 -0.4% 4.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £161,389 0.5% 6.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £211,030 -0.4% 5.4%
Llundain £548,939 -0.3% 0.0%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £203,983 -0.8% 5.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024 o’i gymharu â gostyngiad o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Tachwedd 2024 a Rhagfyr 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2024 Rhagfyr 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £440,190 £418,631 5.2%
Tŷ pâr £270,847 £256,370 5.6%
Tŷ teras £223,808 £213,287 4.9%
Fflat neu fflat deulawr £196,361 £191,890 2.3%
Holl £268,087 £256,177 4.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae cyfanswm y trafodion a nifer yr adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cynyddu’n ddiweddar. Mae Cofrestrfa Tir EF wedi prosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU yn y misoedd diwethaf, er bod nifer y trafodion ar gyfer cyfnodau hŷn a nifer yr adeiladau newydd yn parhau’n is na chyfartaleddau hanesyddol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghrynodeb Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025 yn seiliedig ar oddeutu 32,400 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 4,400 ar gyfer yr Alban, a 1,600 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 48% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ionawr 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Hydref 2024 Hydref 2023
Lloegr 46,318 55,937
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2024) 2,116 1,914
Yr Alban 9,240 7,829
Cymru 2,515 3,093

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2024, cynyddodd nifer y trafodion gan 35.3% yn Lloegr, gan 19.2% yn yr Alban, a chan 35.4% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2024.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Hydref

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2024, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 31.7%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 20.4% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2024 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £399,858 9.0% 22.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £261,645 -0.6% 2.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2025 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £227,026 0.1% 5.3%
Cyn berchen-feddiannydd £330,717 0.4% 4.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2025 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £255,804 0.3% 4.1%
Morgais £278,036 0.2% 5.2%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991