Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2024

Cyhoeddwyd 18 September 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £290,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.6%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2024 am 9.30am ddydd Mercher 16 Hydref 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn 2.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.7% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024.

£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £6,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024 yn Lloegr i £306,000 (1.6%), cynyddodd yng Nghymru i £218,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £199,000 (6.0%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn arafach rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024 (0.6%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (1.1%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 3.8% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 0.4% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Gorffennaf 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd a gwerthiannau a gytunwyd wedi parhau’n sefydlog yng Ngorffennaf, a bod y llif o restriadau newydd yn arwydd o duedd wastad yn gyffredinol. Adroddodd RICS hefyd er bod y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr yn dangos balansau net gwastad neu negyddol ar gyfer y gyfres prisiau tai, unwaith eto gwelwyd symudiadau i fyny mewn prisiau tai yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2024 Chwarter 2 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn sefydlog o ran nifer y trafodion a lefel y galw.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Gorffennaf 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 91,000. Mae hyn 6.7% yn uwch na 12 mis yn ôl (Gorffennaf 2023). Rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024, lleihaodd trafodion y DU gan 0.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 62,000 yng Ngorffennaf 2024, yr uchaf er Medi 2022 (65,100), ac i fyny o 60,600 ym Mehefin.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £6,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024 yn Lloegr i £306,000 (1.6%), cynyddodd yng Nghymru i £218,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £199,000 (6.0%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £218,184 1.1% 2.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2024) £185,025 3.6% 6.4%
Lloegr £305,879 0.2% 1.6%
Yr Alban £199,398 3.1% 6.0%
De Ddwyrain Lloegr £381,188 0.1% 0.5%
De Orllewin Lloegr £320,415 0.5% 1.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £248,817 1.3% 2.5%
Dwyrain Lloegr £341,160 0.7% 0.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £253,707 0.0% 2.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £164,555 0.1% 3.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £219,887 0.0% 2.8%
Llundain £520,747 -0.3% -0.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £214,918 -0.5% 3.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn arafach rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024 (0.6%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (1.1%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2024 Gorffennaf 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £443,180 £433,387 2.3%
Tŷ pâr £281,907 £274,845 2.6%
Tŷ teras £239,524 £234,175 2.3%
Fflat neu fflat deulawr £235,537 £232,235 1.4%
Holl £289,723 £283,532 2.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler Mynegai Prisiau Tai y DU Adran 2.2: Cywirdeb: Accuracy)). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (nododd CTEF ostyngiad o 22% yn 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.

Ym Mawrth 2024 ac Ebrill 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu hadolygu o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis. Yn adroddiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen. O adroddiad Hydref 2024, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn dychwelyd i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2024 yn seiliedig ar tua 25,100 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,100 ar gyfer yr Alban, a 1,400 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 35% o amcangyfrif gwerthiant dros dro CThEF ar gyfer Gorffennaf 2024, fel y manylir yn eu Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu fwy o amcangyfrifon. Dros amser, bydd mwy o gofnodion yn dod ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi adolygu a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF.

Mae amcangyfrifon gwerthiant o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon gan CThEF oherwydd gwahanol ffynonellau data, maint y cyfnod adolygu a chwmpas. Mae Adroddiad ansawdd yn datgan ei bod yn debygol y bydd gwallau yn eu data oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis fel camddosbarthiad rhwng trafodion preswyl ac amhreswyl. Fodd bynnag, mae CThEF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall dros wahaniaethau posibl yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforaethol, cwmni neu fusnes, wedi’u heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata CThEF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi adolygu, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghanllawiau Mynegai Prisiau Tai y DU CTEF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Mai 2024 Mai 2023
Lloegr 29,930 44,542
Gogledd Iwerddon 1,688 1,740
Yr Alban 8,986 7,673
Cymru 1,715 2,515

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 7.1% yn Lloegr, cynyddodd gan 19.2% yn yr Alban, a lleihaodd gan 10.4% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd cynyddodd gan 6.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2024.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Mai 2024, fod nifer y trafodion CThEF wedi cynyddu gan 26.4% yn Lloegr, 19.4% yn yr Alban, 18.9% yng Nghymru, ac 19.2% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Mai

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 2.2%.

Mae’r UK Property Transaction Statistics a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EF (yn wahanol o ran cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail nad yw’n cael ei addasu’n dymhorol, fod nifer y trafodiadau ar gyfer y DU wedi cynyddu 25.2% yn y 12 mis hyd at Fai 2024.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2024 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £422,288 8.7% 23.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £280,469 1.1% 1.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £242,789 0.5% 2.4%
Cyn berchen-feddiannydd £335,756 0.7% 1.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £273,877 0.6% 1.6%
Morgais £301,922 0.6% 2.4%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991