Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth2022

Cyhoeddwyd 18 May 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £278,436

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 9.8%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.3%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 146

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2022 am 9.30am dydd Mercher 22 Mehefin 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, i lawr o 11.3% yn Chwefror 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Chwefror a Mawrth 2022, i lawr o gynnydd o 1.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Nwyrain Canolbarth Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 12.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Llundain lle cynyddodd prisiau gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Mawrth 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi cynyddu’n gymedrol dros y mis, wrth i’r galw gan brynwyr a gwerthiannau godi ar gyflymdra cymedrol ym Mawrth.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Chwarter 1 2022 Banc Lloegr fod galw yn y farchnad dai wedi parhau’n gryf, yn enwedig ymysg prynwyr am y tro cyntaf, ac yn fwy na’r cyflenwad eiddo sydd ar gael. Ynghyd â chyflenwad cyfyngedig o dai a adeiledir o’r newydd, mae hyn wedi arwain at chwyddiant uchel mewn prisiau tai mewn rhai ardaloedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 114,650. Mae hyn 35.7% yn is na flwyddyn yn ôl (Mawrth 2021). Rhwng Chwefror a Mawrth 2022 cynyddodd trafodion y DU gan 2.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Mawrth 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu ychydig i 70,700 ym Mawrth 2022 o 71,000 yn Chwefror 2022. Mae hyn yn parhau’n uwch na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, i lawr o 11.3% yn Chwefror 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 11.7%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 8.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.9% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 10.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £206,395 0.4% 11.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2022) £164,590 3.4% 10.4%
Lloegr £297,524 0.3% 9.9%
Yr Alban £181,415 0.0% 8.0%
De Ddwyrain Lloegr £384,966 1.1% 11.7%
De Orllewin Lloegr £313,834 0.1% 10.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £240,329 1.2% 12.4%
Dwyrain Lloegr £343,900 -0.8% 10.9%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £240,528 1.1% 10.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £154,913 1.1% 8.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £205,121 0.4% 9.7%
Llundain £523,666 -0.9% 4.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £199,607 -0.2% 9.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Chwefror 2022 a Mawrth 2022, i lawr o 1.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2021 a Mawrth 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Chwefror 2022 a Mawrth 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2022 Mawrth 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £441,967 £388,601 13.7%
Tŷ pâr £269,098 £242,157 11.1%
Tŷ teras £226,211 £207,980 8.8%
Fflat neu fflat deulawr £223,401 £214,881 4.0%
Holl £278,436 £253,506 9.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ionawr 2022 Ionawr 2021
Cymru 1,820 3,173
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2022) 1,812 2,505
Lloegr 30,603 64,857
Yr Alban 7,181 7,753

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 42.6% yn Lloegr, lleihaodd gan 5.0% yn yr Alban a lleihaodd gan 29.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 16.0% yn Lloegr, 6.1% yn yr Alban, 13.5% yng Ngogledd Iwerddon a 2.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Ionawr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2022, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 37.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 14.6%.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £373,663 6.5% 19.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £268,481 1.0% 9.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £231,704 0.2% 8.9%
Cyn berchen-feddiannydd £326,500 0.4% 10.7%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £263,468 0.1% 9.3%
Morgais £290,785 0.3% 10.0%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2021, cafwyd 177,318 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,367 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,226 o eiddo
  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 10,382 o eiddo
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 2,990 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 2021 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 14
£25,000 i £49,999 520
£50,000 i £74,999 2963
£75,000 i £99,999 6084
£100,000 i £124,999 8158
£125,000 i £149,999 10130
£150,000 i £174,999 10382
£175,000 i £199,999 10133
£200,000 i £224,999 8722
£225,000 i £249,999 8618
£250,000 i £274,999 7996
£275,000 i £299,999 6977
£300,000 i £324,999 5760
£325,000 i £349,999 5489
£350,000 i £374,999 4586
£375,000 i £399,999 4123
£400,000 i £424,999 3396
£425,000 i £449,999 3013
£450,000 i £474,999 2617
£475,000 i £499,999 2403
£500,000 i £524,999 1807
£525,000 i £549,999 1617
£550,000 i £574,999 1541
£575,000 i £599,999 1264
£600,000 i £624,999 1110
£625,000 i £649,999 1039
£650,000 i £674,999 990
£675,000 i £699,999 823
£700,000 i £724,999 741
£725,000 i £749,999 668
£750,000 i £774,999 630
£775,000 i £799,999 561
£800,000 i £824,999 528
£825,000 i £849,999 400
£850,000 i £874,999 462
£875,000 i £899,999 405
£900,000 i £924,999 341
£925,000 i £949,999 269
£950,000 i £974,999 310
£975,000 i £999,999 265
£1,000,000 i £1,249,999 1431
£1,250,000 i £1,499,999 947
£1,500,000 i £1,749,999 510
£1,750,000 i £1,999,999 298
£2,000,000 i £4,999,999 691
£5,000,000 i £9,999,999 79
Mwy na £10,000,000 30

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 85
£25,000 i £49,999 718
£50,000 i £74,999 1976
£75,000 i £99,999 2783
£100,000 i £124,999 2734
£125,000 i £149,999 2990
£150,000 i £174,999 2698
£175,000 i £199,999 2486
£200,000 i £224,999 2098
£225,000 i £249,999 1919
£250,000 i £274,999 1581
£275,000 i £299,999 1288
£300,000 i £324,999 1042
£325,000 i £349,999 777
£350,000 i £374,999 695
£375,000 i £399,999 533
£400,000 i £424,999 415
£425,000 i £449,999 318
£450,000 i £474,999 311
£475,000 i £499,999 202
£500,000 i £524,999 187
£525,000 i £549,999 141
£550,000 i £574,999 113
£575,000 i £599,999 92
£600,000 i £624,999 103
£625,000 i £649,999 63
£650,000 i £674,999 64
£675,000 i £699,999 41
£700,000 i £724,999 46
£725,000 i £749,999 35
£750,000 i £774,999 31
£775,000 i £799,999 26
£800,000 i £824,999 27
£825,000 i £849,999 19
£850,000 i £874,999 19
£875,000 i £899,999 10
£900,000 i £924,999 16
£925,000 i £949,999 8
£950,000 i £974,999 8
£975,000 i £999,999 10
£1,000,000 i £1,249,999 53
£1,250,000 i £1,499,999 21
£1,500,000 i £1,749,999 11
£1,750,000 i £1,999,999 8
£2,000,000 i £4,999,999 12
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 0
£25,000 i £49,999 34
£50,000 i £74,999 267
£75,000 i £99,999 755
£100,000 i £124,999 972
£125,000 i £149,999 1367
£150,000 i £174,999 1234
£175,000 i £199,999 1071
£200,000 i £224,999 724
£225,000 i £249,999 696
£250,000 i £274,999 544
£275,000 i £299,999 484
£300,000 i £324,999 331
£325,000 i £349,999 294
£350,000 i £374,999 231
£375,000 i £399,999 202
£400,000 i £424,999 147
£425,000 i £449,999 105
£450,000 i £474,999 94
£475,000 i £499,999 85
£500,000 i £524,999 49
£525,000 i £549,999 41
£550,000 i £574,999 42
£575,000 i £599,999 44
£600,000 i £624,999 23
£625,000 i £649,999 29
£650,000 i £674,999 18
£675,000 i £699,999 19
£700,000 i £724,999 25
£725,000 i £749,999 19
£750,000 i £774,999 17
£775,000 i £799,999 11
£800,000 i £824,999 15
£825,000 i £849,999 7
£850,000 i £874,999 8
£875,000 i £899,999 5
£900,000 i £924,999 5
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 3
£975,000 i £999,999 5
£1,000,000 i £1,249,999 13
£1,250,000 i £1,499,999 3
£1,500,000 i £1,749,999 5
£1,750,000 i £1,999,999 2
£2,000,000 i £4,999,999 1
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 1

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 3
£25,000 i £49,999 93
£50,000 i £74,999 485
£75,000 i £99,999 963
£100,000 i £124,999 927
£125,000 i £149,999 1226
£150,000 i £174,999 958
£175,000 i £199,999 649
£200,000 i £224,999 338
£225,000 i £249,999 272
£250,000 i £274,999 172
£275,000 i £299,999 140
£300,000 i £324,999 77
£325,000 i £349,999 79
£350,000 i £374,999 58
£375,000 i £399,999 31
£400,000 i £424,999 29
£425,000 i £449,999 14
£450,000 i £474,999 11
£475,000 i £499,999 12
Mwy na £500,000 79

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915