Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2023
Cyhoeddwyd 24 Mai 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £214,174
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 157.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2022 am 9.30am ddydd Mercher 21 Mehefin 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023. Roedd hyn i lawr o 6.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023 ac yn gyflymach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 4.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2023, cynyddodd nifer y trafodion gan 9.9% yng Nghymru a chan 9.3% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 19 awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan godi 11.2% i £167,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 3.8% i £198,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Yng Nghymru, dangosodd tai pâr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 5.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023 i £209,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 3.7% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023, i’r pris cyfartalog o £135,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 4.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023, i lawr o 6.4% yn Chwefror 2023.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mawrth 2023 | Mawrth 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £192,021 | £183,920 | 4.4% |
Blaenau Gwent | £134,952 | £126,705 | 6.5% |
Bro Morgannwg | £309,774 | £301,481 | 2.8% |
Caerdydd | £265,993 | £249,065 | 6.8% |
Caerffili | £184,321 | £174,455 | 5.7% |
Casnewydd | £236,026 | £224,294 | 5.2% |
Castell-nedd Port Talbot | £167,435 | £150,516 | 11.2% |
Ceredigion | £237,992 | £246,362 | -3.4% |
Conwy | £213,712 | £203,355 | 5.1% |
Gwynedd | £198,497 | £206,348 | -3.8% |
Merthyr Tudful | £153,749 | £140,236 | 9.6% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £200,123 | £190,811 | 4.9% |
Powys | £245,202 | £234,682 | 4.5% |
Rhondda Cynon Taf | £156,358 | £144,051 | 8.5% |
Sir Benfro | £236,511 | £229,763 | 2.9% |
Sir Ddinbych | £203,762 | £195,011 | 4.5% |
Sir Fynwy | £358,234 | £338,352 | 5.9% |
Sir y Fflint | £219,793 | £201,403 | 9.1% |
Sir Gaerfyrddin | £212,963 | £192,596 | 10.6% |
Tor-faen | £200,079 | £186,912 | 7% |
Wrecsam | £205,829 | £191,152 | 7.7% |
Ynys Môn | £225,380 | £225,419 | -0% |
Cymru | £214,174 | £204,321 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mawrth 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £358,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £135,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mawrth 2023 | Mawrth 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £331,364 | £314,626 | 5.3% |
Tŷ pâr | £209,424 | £197,942 | 5.8% |
Tŷ teras | £164,845 | £158,656 | 3.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £135,001 | £130,183 | 3.7% |
Holl | £214,174 | £204,321 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Ionawr 2023 | Ionawr 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 144 | 220 |
Blaenau Gwent | 48 | 61 |
Bro Morgannwg | 80 | 128 |
Caerdydd | 241 | 313 |
Caerffili | 113 | 158 |
Casnewydd | 120 | 172 |
Castell-nedd Port Talbot | 85 | 132 |
Ceredigion | 34 | 72 |
Conwy | 90 | 117 |
Gwynedd | 74 | 125 |
Merthyr Tudful | 38 | 45 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 97 | 145 |
Powys | 73 | 107 |
Rhondda Cynon Taf | 157 | 220 |
Sir Benfro | 77 | 116 |
Sir Ddinbych | 74 | 105 |
Sir Gaerfyrddin | 115 | 201 |
Sir Fynwy | 55 | 79 |
Sir y Fflint | 105 | 169 |
Tor-faen | 64 | 97 |
Wrecsam | 73 | 123 |
Ynys Môn | 44 | 64 |
Cymru | 2,001 | 2,969 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2023, cynyddodd nifer y trafodion gan 9.9% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 17.0% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Ionawr 2019 | 3,070 |
Ionawr 2020 | 3,171 |
Ionawr 2021 | 3,173 |
Ionawr 2022 | 2,969 |
Ionawr 2023 | 2,001 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £315,748 | -3.5% | 11.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £211,201 | -2.5% | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £183,813 | -0.6% | 4.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £250,140 | -0.5% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £206,353 | -0.4% | 4.2% |
Morgais | £218,650 | -0.7% | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2023 |
---|---|
Cymru | 1 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288