Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2024
Cyhoeddwyd 22 Mai 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £214,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.3%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 157.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2024 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mehefin 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 0.7% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 1.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 48.0% yng Nghymru a lleihaodd gan 38.2% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 11 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 4.0% i £244,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 13.7% i £131,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024.
Yng Nghymru, tai pâr a thai sengl oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 1.5% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024. £209,000 oedd pris tŷ cyfartalog ar gyfer eiddo pâr ym Mawrth 2024, a £323,000 ar gyfer eiddo sengl yng Nghymru. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan gynyddu 1.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024, i’r pris cyfartalog o £166,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 1.3% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 0.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mawrth 2024 | Mawrth 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £198,844 | £193,364 | 2.8% |
Blaenau Gwent | £134,730 | £131,422 | 2.5% |
Bro Morgannwg | £290,412 | £289,695 | 0.2% |
Caerdydd | £263,646 | £266,444 | -1.1% |
Caerffili | £188,312 | £183,918 | 2.4% |
Casnewydd | £222,806 | £232,771 | -4.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £164,179 | £171,819 | -4.4% |
Ceredigion | £243,965 | £234,611 | 4% |
Conwy | £212,928 | £217,993 | -2.3% |
Gwynedd | £207,539 | £202,118 | 2.7% |
Merthyr Tudful | £131,150 | £151,979 | -13.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £201,606 | £205,947 | -2.1% |
Powys | £236,980 | £236,347 | 0.3% |
Rhondda Cynon Taf | £150,897 | £156,304 | -3.5% |
Sir Benfro | £227,679 | £225,827 | 0.8% |
Sir Ddinbych | £187,191 | £200,252 | -6.5% |
Sir Fynwy | £340,158 | £336,708 | 1% |
Sir y Fflint | £221,818 | £214,000 | 3.7% |
Sir Gaerfyrddin | £200,939 | £205,437 | -2.2% |
Torfaen | £192,617 | £194,425 | -0.9% |
Wrecsam | £199,556 | £204,056 | -2.2% |
Ynys Môn | £243,158 | £233,838 | 4% |
Cymru | £213,753 | £210,991 | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mawrth 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £340,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Merthyr Tudful, lle mai £131,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mawrth 2024 | Mawrth 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £323,128 | £318,502 | 1.5% |
Tŷ pâr | £209,039 | £205,946 | 1.5% |
Tŷ teras | £166,349 | £164,776 | 1.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £140,445 | £138,560 | 1.4% |
Holl | £213,753 | £210,991 | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Ionawr 2024 | Ionawr 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 79 | 176 |
Blaenau Gwent | 16 | 63 |
Bro Morgannwg | 35 | 100 |
Caerdydd | 107 | 309 |
Caerffili | 41 | 140 |
Casnewydd | 42 | 148 |
Castell-nedd Port Talbot | 49 | 100 |
Ceredigion | 27 | 48 |
Conwy | 68 | 106 |
Gwynedd | 60 | 85 |
Merthyr Tudful | 13 | 46 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 55 | 111 |
Powys | 52 | 83 |
Rhondda Cynon Taf | 80 | 188 |
Sir Benfro | 54 | 94 |
Sir Ddinbych | 37 | 86 |
Sir Gaerfyrddin | 71 | 143 |
Sir Fynwy | 34 | 73 |
Sir y Fflint | 41 | 128 |
Torfaen | 21 | 84 |
Wrecsam | 39 | 94 |
Ynys Môn | 20 | 54 |
Cymru | 1,041 | 2,459 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 48.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 13.1% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Ionawr 2020 | 3,171 |
Ionawr 2021 | 3,404 |
Ionawr 2022 | 3,239 |
Ionawr 2023 | 2,459 |
Ionawr 2024 | 1,041 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £307,108 | 2.6% | 14.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £204,315 | -2.4% | -3.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £184,604 | 0.8% | 1.3% |
Cyn berchen-feddiannydd | £247,873 | 1.0% | 1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,539 | 1.0% | 1.4% |
Morgais | £217,433 | 0.9% | 1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2024 |
---|---|
Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288