Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2022

Cyhoeddwyd 18 January 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £220,366

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 10.7%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 161.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2022 am 9.30am dydd Mercher 15 Chwefror 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, i lawr o 11.9% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022. Yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, roedd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach na phrisiau tai cyfartalog yn y DU (10.3%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.6% rhwng Hydref a Thachwedd 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2021 a Thachwedd 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Hydref 2022 a Thachwedd 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 84.6% yng Nghymru a chan 26.6% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022. Roedd y newid canrannol blynyddol mwyaf yng Nghaerffili, gan godi 17.2% i £194,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022. Mewn cyferbyniad, roedd y newid canrannol blynyddol lleiaf yng Nghonwy, gan gynyddu 6.4% i £217,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022.

Yng Nghymru, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 13.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022 i £173,000. Gwelwyd y twf blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 6.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, i’r pris cyfartalog o £136,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, i lawr o 11.9% yn Hydref 2022.

Awdurdodau lleol Tachwedd 2022 Tachwedd 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £202,940 £184,149 10.2%
Blaenau Gwent £134,570 £117,646 14.4%
Bro Morgannwg £310,033 £283,524 9.3%
Caerdydd £268,756 £240,007 12%
Caerffili £194,483 £165,881 17.2%
Casnewydd £239,476 £218,162 9.8%
Castell-nedd Port Talbot £171,658 £148,426 15.7%
Ceredigion £274,088 £237,853 15.2%
Conwy £217,350 £204,233 6.4%
Gwynedd £221,402 £192,775 14.8%
Merthyr Tudful £155,725 £133,724 16.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £217,113 £192,863 12.6%
Powys £262,634 £232,090 13.2%
Rhondda Cynon Taf £161,126 £141,501 13.9%
Sir Benfro £245,876 £224,251 9.6%
Sir Ddinbych £209,010 £187,734 11.3%
Sir Fynwy £364,497 £319,402 14.1%
Sir y Fflint £220,059 £197,742 11.3%
Sir Gaerfyrddin £215,261 £190,827 12.8%
Tor-faen £205,364 £185,595 10.7%
Wrecsam £208,481 £191,320 9%
Ynys Môn £248,010 £226,065 9.7%
Cymru £220,366 £199,006 10.7%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Nhachwedd 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £360,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £135,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Tachwedd 2022 Tachwedd 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £336,710 £307,705 9.4%
Tŷ pâr £214,007 £193,404 10.7%
Tŷ teras £172,992 £153,113 13.0%
Fflat neu fflat deulawr £136,269 £128,422 6.1%
Holl £220,366 £199,006 10.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Medi 2022 Medi 2021
Abertawe 216 293
Blaenau Gwent 72 89
Bro Morgannwg 118 229
Caerdydd 332 427
Caerffili 171 211
Casnewydd 147 208
Castell-nedd Port Talbot 145 177
Ceredigion 69 82
Conwy 144 211
Gwynedd 106 137
Merthyr Tudful 59 83
Pen-y-bont ar Ogwr 151 198
Powys 116 193
Rhondda Cynon Taf 215 336
Sir Benfro 120 173
Sir Ddinbych 100 170
Sir Gaerfyrddin 173 234
Sir Fynwy 82 146
Sir y Fflint 144 277
Tor-faen 84 117
Wrecsam 108 178
Ynys Môn 63 112
Cymru 2,935 4,281

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 84.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 12.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Medi 2018 3,959
Medi 2019 3,923
Medi 2020 2,859
Medi 2021 4,281
Medi 2022 2,935

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £325,064 6.3% 23.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £219,352 2.2% 12.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £189,969 -1.5% 11.2%
Cyn berchen-feddiannydd £256,108 -1.7% 10.2%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £212,605 -1.9% 9.8%
Morgais £224,829 -1.5% 11.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2022
Cymru 10

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288