Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2022

Cyhoeddwyd 18 January 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £294,910

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.3%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.3%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 154.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2022 am 9.30am dydd Mercher 15 Chwefror 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU oedd 10.3% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, o’i gymharu â 12.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 a 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Y pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £295,000 yn Nhachwedd 2022, sy’n £28,000 yn uwch na’r adeg hon y flwyddyn ddiwethaf. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y flwyddyn i £315,000 (10.9%) yn Lloegr, i £220,000 yng Nghymru (10.7%) i £191,000 yn yr Alban (5.5%) ac i £176,000 yng Ngogledd Iwerddon (10.7%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog gan 0.3% rhwng Hydref a Thachwedd 2022, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.5% yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd y twf blynyddol cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 13.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022. Llundain oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.3% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Tachwedd 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gweithgarwch cyffredinol yn parhau i wanhau ar draws y farchnad gwerthu tai, gyda chyfraddau llog uchel a’r rhagolygon macroeconomaidd anodd yn effeithio ar deimladau prynwyr.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 4 fod y cyflenwad o dai sydd ar werth wedi cynyddu’n gyflymach na’r galw gyda chostau rhoi benthyg uwch a phryderon ynghylch fforddiadwyedd yn rhoi pwysau sylweddol ar y galw gan brynwyr am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 107,190. Mae hyn 13.3% yn uwch na flwyddyn yn ôl (Tachwedd 2021). Rhwng Hydref a Thachwedd 2022, cynyddodd trafodion yn y DU gan 0.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Tachwedd 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau i 46,100 yn Nhachwedd 2022, o 57,900 yn Hydref 2022. Dyma’r lefel isaf ers Mehefin 2020 (40,500).

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.3% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022, i lawr o 12.4% yn Hydref 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 10.9%.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £220,366 -1.6% 10.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2022) £176,131 4.1% 10.7%
Lloegr £315,073 -0.2% 10.9%
Yr Alban £191,492 -1.2% 5.5%
De Ddwyrain Lloegr £402,466 -0.5% 10.0%
De Orllewin Lloegr £337,144 -0.3% 11.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £253,498 0.2% 12.2%
Dwyrain Lloegr £365,144 0.6% 10.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £256,937 -0.1% 12.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £162,596 -2.6% 11.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £221,224 0.4% 13.5%
Llundain £542,311 0.1% 6.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £212,329 -0.7% 11.4%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Hydref 2022 a Thachwedd 2022. Mae hyn i lawr o gynnydd o 1.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2022 a Thachwedd 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2022 Tachwedd 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £464,745 £420,244 10.6%
Tŷ pâr £286,285 £257,282 11.3%
Tŷ teras £242,533 £216,637 12.0%
Fflat neu fflat deulawr £232,762 £220,260 5.7%
Holl £294,910 £267,370 10.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Medi 2022 Medi 2021
Lloegr 53,772 112,689
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2022) 2,134 2,821
Yr Alban 9,862 9,477
Cymru 2,935 4,281

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 31.4% yn Lloegr, cynyddodd gan 6.6% yn yr Alban a chynyddodd gan 84.6% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 15.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 34.1% yn Lloegr, wedi lleihau gan 12.3% yng Nghymru, wedi cynyddu gan 6.5% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 31.2% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Medi

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 26.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 30.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £396,667 4.8% 19.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £288,332 0.5% 8.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £245,522 -0.4% 10.3%
Cyn berchen-feddiannydd £345,576 -0.3% 10.3%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £279,138 -0.4% 9.7%
Morgais £307,887 -0.3% 10.5%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915