Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2021

Cyhoeddwyd 15 December 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £268,349

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.1%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 140.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2021 am 9.30am ddydd Mercher 19 Ionawr 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, i lawr o 12.3% ym Medi 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Medi a Hydref 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi a Hydref 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle cynyddodd prisiau gan 15.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain lle cynyddodd prisiau gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2021 yn dangos bod y galw gan brynwyr wedi cynyddu ryw ychydig. Mae diffyg cyflenwad yn golygu bod dewis cyfyngedig gan brynwyr a hwn yw’r ffactor allweddol o hyd yn y twf cryf mewn prisiau tai.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Banc Lloegr 2021 Chwarter 3 fod y galw cryf am dai ar draws y rhan fwyaf o’r DU a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hyn wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Hydref 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 76,930. Mae hyn 28.3% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Medi a Hydref 2021, lleihaodd trafodion y DU gan 52.0% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn cynnydd mawr yn y mis blaenorol.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Hydref 2021 mai’r ffigwr o ran nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn Hydref 2021 oedd 67,200, sydd i lawr o 71,900 ym Medi 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, i lawr o 12.3% ym Medi 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 15.5%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 11.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £203,224 2.6% 15.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) £159,109 3.0% 10.7%
Lloegr £285,113 -1.5% 9.8%
Yr Alban £181,391 0.4% 11.3%
De Ddwyrain Lloegr £366,883 -0.7% 10.3%
De Orllewin Lloegr £298,600 -0.7% 9.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £228,290 -0.9% 11.7%
Dwyrain Lloegr £332,216 -0.1% 11.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £226,279 -3.3% 8.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £147,719 -4.8% 9.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £195,325 -4.8% 9.8%
Llundain £516,285 1.9% 6.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £193,675 -1.7% 11.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Medi a Hydref 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi a Hydref 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Medi a Hydref 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2021 Hydref 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £425,121 £372,931 14.0%
Tŷ pâr £256,537 £232,383 10.4%
Tŷ teras £216,481 £198,997 8.8%
Fflat neu fflat deulawr £222,381 £208,547 6.6%
Holl £268,349 £243,576 10.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Awst 2021 Awst 2020
Lloegr 26,661 56,476
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2021) 2,510 1,766
Yr Alban 9,743 6,977
Cymru 1,613 2,525

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.2% yn Lloegr, cynyddodd gan 45.7% yn yr Alban a lleihaodd gan 25.9% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 62.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 17.8% yn Lloegr, 45.3% yn yr Alban, 53.9% yng Nghymru a 63.3% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Awst

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 30.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 22.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £348,188 2.2% 18.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £257,188 3.6% 9.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £222,997 -1.7% 9.2%
Cyn berchen-feddiannydd £315,161 -0.6% 11.3%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £255,730 -0.9% 10.3%
Morgais £279,511 -1.2% 10.2%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915