Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2022
Cyhoeddwyd 16 Tachwedd 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £223,798
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 12.9%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 164.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2022 am 9.30am dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 12.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, i lawr o 14.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022. Yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, roedd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach (12.9%) na phrisiau tai cyfartalog yn y DU (9.5%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% rhwng Awst a Medi 2022, o’i gymharu â chynnydd o 3.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Awst 2022 a Medi 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 199.9% yng Nghymru a chan 133.6% yn y DU. Mae’r cynnydd mawr mewn amcangyfrifon dros dro o drafodion rhwng Gorffennaf 2021 a Gorffennaf 2022 oherwydd y newidiadau i drethi tir yn 2021. Cafodd llai o drafodion prynu eiddo eu cwblhau yng Ngorffennaf 2021 o’i gymharu â’r nifer arferol oherwydd bod prynwyr wedi rhuthro i gwblhau prynu eiddo ym Mehefin 2021, cyn i’r newidiadau i drethi tir ddod i ben ym Mehefin 2021. Mewn cyferbyniad, mae trafodion eiddo yng Ngorffennaf 2022 wedi bod ar y lefelau arferol, sy’n llawer uwch na’r rhai a adroddwyd yn yr amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021.
Yng Nghymru, dangosodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, gan godi 20.4% i £157,000 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid blynyddol lleiaf gyda chynnydd o 10.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £233,000.
Yng Nghymru, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 13.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022 i £218,000. Gwelwyd y twf blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 7.0% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, i’r pris cyfartalog o £138,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 12.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, i lawr o 14.3% yn Awst 2022.
Awdurdodau lleol | Medi 2022 | Medi 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £198,801 | £173,399 | 14.6% |
Blaenau Gwent | £135,888 | £115,258 | 17.9% |
Bro Morgannwg | £315,039 | £270,189 | 16.6% |
Caerdydd | £267,573 | £236,647 | 13.1% |
Caerffili | £190,609 | £162,825 | 17.1% |
Casnewydd | £233,001 | £211,246 | 10.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £166,871 | £141,158 | 18.2% |
Ceredigion | £262,535 | £228,145 | 15.1% |
Conwy | £221,492 | £196,508 | 12.7% |
Gwynedd | £214,171 | £191,674 | 11.7% |
Merthyr Tudful | £157,491 | £130,827 | 20.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £207,983 | £182,610 | 13.9% |
Powys | £262,407 | £225,511 | 16.4% |
Rhondda Cynon Taf | £160,681 | £136,710 | 17.5% |
Sir Benfro | £248,315 | £212,752 | 16.7% |
Sir Ddinbych | £210,387 | £177,429 | 18.6% |
Sir Fynwy | £363,949 | £316,837 | 14.9% |
Sir y Fflint | £218,539 | £192,850 | 13.3% |
Sir Gaerfyrddin | £207,028 | £184,098 | 12.5% |
Tor-faen | £202,890 | £178,090 | 13.9% |
Wrecsam | £208,886 | £185,698 | 12.5% |
Ynys Môn | £246,404 | £219,930 | 12% |
Cymru | £223,798 | £198,146 | 12.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Medi 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £364,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £136,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2022 | Medi 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £342,603 | £302,103 | 13.4% |
Tŷ pâr | £217,876 | £191,235 | 13.9% |
Tŷ teras | £175,077 | £154,975 | 13.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £138,134 | £129,138 | 7.0% |
Holl | £223,798 | £198,146 | 12.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2022 | Gorffennaf 2021 |
---|---|---|
Abertawe | 227 | 263 |
Blaenau Gwent | 65 | 83 |
Bro Morgannwg | 136 | 126 |
Caerdydd | 356 | 306 |
Caerffili | 173 | 195 |
Casnewydd | 173 | 165 |
Castell-nedd Port Talbot | 139 | 201 |
Ceredigion | 72 | 82 |
Conwy | 137 | 134 |
Gwynedd | 114 | 146 |
Merthyr Tudful | 51 | 71 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 171 | 184 |
Powys | 102 | 127 |
Rhondda Cynon Taf | 209 | 305 |
Sir Benfro | 135 | 160 |
Sir Ddinbych | 95 | 118 |
Sir Gaerfyrddin | 153 | 233 |
Sir Fynwy | 84 | 91 |
Sir y Fflint | 147 | 185 |
Tor-faen | 88 | 105 |
Wrecsam | 131 | 142 |
Ynys Môn | 65 | 84 |
Cymru | 3,023 | 3,506 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 199.9% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 6.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2018 | 4,227 |
Gorffennaf 2019 | 4,306 |
Gorffennaf 2020 | 2,391 |
Gorffennaf 2021 | 3,506 |
Gorffennaf 2022 | 3,023 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £311,152 | 2.2% | 21.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £213,290 | 2.2% | 16.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £192,833 | 2.1% | 12.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £260,241 | 1.9% | 13.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £216,481 | 1.9% | 12.2% |
Morgais | £228,057 | 2.0% | 13.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2022 |
---|---|
Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288