Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2023

Cyhoeddwyd 15 November 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2023

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,000

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.7%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.9%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 157.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2023 am 9.30am ddydd Mercher 20 Rhagfyr 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.7% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2023. Roedd hyn i lawr o’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog o 0.0% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Awst 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 0.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Awst 2023 a Medi 2023, o’i gymharu â chynnydd o 1.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Awst 2023 a Medi 2023.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 23.5% yng Nghymru a lleihaodd gan 21.9% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 11 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf yn Sir Fynwy, gan godi 4.7% i £368,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2023. Mewn cyferbyniad, Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 11.2% i £118,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.

Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan ostwng 1.3% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023 i £333,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan ostwng 4.3% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023, i’r pris cyfartalog o £166,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023, i lawr o 0.0% yn y 12 mis hyd at Awst 2023.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Medi 2023 Medi 2022 Gwahaniaeth
Abertawe £198,000 £197,000 0.8%
Blaenau Gwent £118,000 £133,000 -11.2%
Bro Morgannwg £316,000 £309,000 2.3%
Caerdydd £268,000 £262,000 2.5%
Caerffili £187,000 £188,000 -0.2%
Casnewydd £236,000 £233,000 1.4%
Castell-nedd Port Talbot £166,000 £166,000 0.3%
Ceredigion £258,000 £257,000 0.5%
Conwy £217,000 £219,000 -0.7%
Gwynedd £213,000 £212,000 0.6%
Merthyr Tudful £155,000 £152,000 1.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £205,000 £210,000 -2.1%
Powys £246,000 £256,000 -3.8%
Rhondda Cynon Taf £153,000 £159,000 -3.5%
Sir Benfro £239,000 £247,000 -3.2%
Sir Ddinbych £208,000 £205,000 1.9%
Sir Fynwy £368,000 £351,000 4.7%
Sir y Fflint £218,000 £215,000 1.4%
Sir Gaerfyrddin £202,000 £206,000 -1.7%
Tor-faen £193,000 £200,000 -3.3%
Wrecsam £196,000 £209,000 -6.1%
Ynys Mon £236,000 £248,000 -4.9%
Cymru £215,000 £221,000 -2.7%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Medi 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £368,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £118,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Medi 2023 Medi 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £333,000 £338,000 -1.3%
Tŷ pâr £209,000 £214,000 -2.3%
Tŷ teras £166,000 £173,000 -4.3%
Fflat neu fflat deulawr £135,000 £137,000 -1.6%
Holl £215,000 £221,000 -2.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2022
Abertawe 181 285
Blaenau Gwent 44 85
Bro Morgannwg 102 176
Caerdydd 253 455
Caerffili 112 216
Casnewydd 129 237
Castell-nedd Port Talbot 113 175
Ceredigion 42 99
Conwy 101 164
Gwynedd 106 136
Merthyr Tudful 37 59
Pen-y-bont ar Ogwr 108 213
Powys 89 127
Rhondda Cynon Taf 198 260
Sir Benfro 88 180
Sir Ddinbych 80 113
Sir Gaerfyrddin 138 195
Sir Fynwy 73 119
Sir y Fflint 95 181
Tor-faen 71 124
Wrecsam 102 160
Ynys Mon 51 82
Cymru 2,313 3,841

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 23.5% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 24.7% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Gorffennaf 2019 4,306
Gorffennaf 2020 2,391
Gorffennaf 2021 3,506
Gorffennaf 2022 3,841
Gorffennaf 2023 2,313

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £336,000 2.2% 17.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £211,000 1.5% -0.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £185,000 -1.0% -3.1%
Cyn berchen-feddiannydd £251,000 -0.9% -2.3%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Medi 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,000 -1.0% -3.0%
Morgais £219,000 -0.9% -2.6%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2023
Cymru 2

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288