Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2024
Cyhoeddwyd 20 Tachwedd 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £217,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.2%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 159.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2024 am 9.30am ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024, i £217,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 2.9% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Awst 2024 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.9% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.2% rhwng Awst 2024 a Medi 2024, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.2% rhwng Awst 2024 a Medi 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.1% yng Nghymru a lleihaodd gan 6.6% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2024. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 12.5% i £142,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 7.9% i £196,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.
Yng Nghymru, fflatiau a fflatiau deulawr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 1.6% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024, i’r pris cyfartalog o £142,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan leihau 0.9% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024, i’r pris cyfartalog o £322,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 0.4% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 2.9% yn y 12 mis hyd at Awst 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Medi 2024 | Medi 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £203,735 | £199,099 | 2.3% |
Blaenau Gwent | £141,573 | £125,870 | 12.5% |
Bro Morgannwg | £299,231 | £299,140 | 0% |
Caerdydd | £278,302 | £264,279 | 5.3% |
Caerffili | £194,795 | £186,851 | 4.3% |
Casnewydd | £240,049 | £231,978 | 3.5% |
Castell-nedd Port Talbot | £167,827 | £167,110 | 0.4% |
Ceredigion | £253,656 | £252,600 | 0.4% |
Conwy | £217,652 | £225,677 | -3.6% |
Gwynedd | £196,424 | £213,308 | -7.9% |
Merthyr Tudful | £154,227 | £150,533 | 2.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £218,972 | £199,970 | 9.5% |
Powys | £244,015 | £243,089 | 0.4% |
Rhondda Cynon Taf | £162,248 | £160,787 | 0.9% |
Sir Benfro | £237,974 | £236,821 | 0.5% |
Sir Ddinbych | £206,574 | £202,635 | 1.9% |
Sir Fynwy | £352,562 | £340,772 | 3.5% |
Sir y Fflint | £210,999 | £215,792 | -2.2% |
Sir Gaerfyrddin | £195,763 | £199,677 | -2% |
Torfaen | £188,188 | £190,606 | -1.3% |
Wrecsam | £204,956 | £199,644 | 2.7% |
Ynys Môn | £246,077 | £243,465 | 1.1% |
Cymru | £216,750 | £215,936 | 0.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Medi 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £353,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £142,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2024 | Medi 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £321,674 | £324,650 | -0.9% |
Tŷ pâr | £210,347 | £208,836 | 0.7% |
Tŷ teras | £172,122 | £170,838 | 0.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £142,380 | £140,157 | 1.6% |
Holl | £216,750 | £215,936 | 0.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2024 | Gorffennaf 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 161 | 213 |
Blaenau Gwent | 35 | 61 |
Bro Morgannwg | 116 | 127 |
Caerdydd | 278 | 330 |
Caerffili | 95 | 130 |
Casnewydd | 106 | 177 |
Castell-nedd Port Talbot | 100 | 132 |
Ceredigion | 45 | 55 |
Conwy | 95 | 126 |
Gwynedd | 76 | 111 |
Merthyr Tudful | 23 | 50 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 110 | 138 |
Powys | 95 | 115 |
Rhondda Cynon Taf | 151 | 229 |
Sir Benfro | 80 | 112 |
Sir Ddinbych | 77 | 108 |
Sir Gaerfyrddin | 102 | 155 |
Sir Fynwy | 62 | 105 |
Sir y Fflint | 112 | 127 |
Torfaen | 51 | 88 |
Wrecsam | 65 | 126 |
Ynys Môn | 45 | 57 |
Cymru | 2,080 | 2,872 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.1% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 15.9% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2020 | 2,391 |
Gorffennaf 2021 | 3,890 |
Gorffennaf 2022 | 4,207 |
Gorffennaf 2023 | 2,872 |
Gorffennaf 2024 | 2,080 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £339,779 | 5.7% | 22.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,677 | 0.1% | 0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £188,433 | -2.4% | 0.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £249,327 | -2.0% | -0.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £209,729 | -2.2% | -0.4% |
Morgais | £220,891 | -2.2% | 0.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2024 |
---|---|
Cymru | 9 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288