Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2021

Cyhoeddwyd 16 June 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £250,772

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.9%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.9%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 131.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2021 am 9.30am ddydd Mercher 14 Gorffennaf 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 8.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021, i lawr o 9.9% ym Mawrth 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.9% rhwng Mawrth 2021 ac Ebrill 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth ac Ebrill 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 16.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 3.3% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2021 yn dangos bod twf yn y galw yn gynyddol fwy na’r cyflenwad.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2021 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr fod cysylltiadau yn dweud bod y rhagolygon ar gyfer y farchnad dai wedi gwella, gyda gweithgarwch wedi ei gynnal gan estyniad y gwyliau treth ar gyfer trafodion eiddo a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Mynegodd asiantau tai bryder am brinder eiddo sydd ar werth gan ddweud fod prynwyr i’w gweld yn llai sensitif o ran prisiau nag arfer.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 117,860. Mae hyn 179.6% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Mawrth ac Ebrill 2021, lleihaodd trafodion gan 35.7% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Ebrill 2021 mai’r ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn Ebrill 2021 oedd 86,900, sydd ychydig yn fwy nag ym Mawrth 2021 ond yn is na’r brig diweddar o 103,700 yn Nhachwedd 2020.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 8.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021, i lawr o 9.9% ym Mawrth 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 15.6%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 6.3% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 8.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 6.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £185,041 0.6% 15.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) £149,178 1.1% 6.0%
Lloegr £268,380 -1.9% 8.9%
Yr Alban £161,401 -4.1% 6.3%
De Ddwyrain Lloegr £341,358 -2.3% 5.0%
De Orllewin Lloegr £279,951 -2.3% 9.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £213,308 -1.1% 9.3%
Dwyrain Lloegr £313,964 0.3% 8.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £216,973 -0.9% 11.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £144,032 -1.7% 16.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £183,299 -2.6% 11.8%
Llundain £491,687 -2.0% 3.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £179,408 -3.7% 12.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.9% rhwng Mawrth ac Ebrill 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth ac Ebrill 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.2% rhwng Mawrth ac Ebrill 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2021 Ebrill 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £385,918 £352,980 9.3%
Tŷ pâr £241,407 £219,183 10.1%
Tŷ teras £204,990 £187,218 9.5%
Fflat neu fflat deulawr £210,006 £199,179 5.4%
Holl £250,772 £230,318 8.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2021 Chwefror 2020
Lloegr 64,764 56,568
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) 2,244 1,788
Yr Alban 7,198 5,939
Cymru 2,943 3,168

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 31.7% yn Lloegr, 25.5% yn yr Alban, a 2.8% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 41.8% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 50.0% yn Lloegr, 22.6% yn yr Alban, 20.6% yng Nghymru a 27.9% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Chwefror

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 29.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 46.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £312,065 0.4% 10.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £247,624 0.2% 8.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £210,856 -1.7% 9.0%
Cyn berchen-feddiannydd £291,087 -2.2% 8.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £237,710 -2.3% 9.0%
Morgais £261,677 -1.9% 8.9%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915