Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2021

Cyhoeddwyd 20 October 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £264,244

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.9%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 138.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2021 am 9.30am ddydd Mercher 17 Tachwedd 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021, i fyny o 8.5% yng Ngorffennaf 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.9% rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf ac Awst 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 7.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Awst 2021 fod y galw gan brynwyr wedi sefydlogi yn y farchnad dai, ar ôl i werthiannau dawelu yn y mis blaenorol. Mae’r twf mewn prisiau tai yn arafu ond adroddir ei fod yn parhau’n gadarn ar draws y DU.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 3 fod y galw cryf am dai ar draws y rhan fwyaf o’r DU a’r prinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hyn wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Awst 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 98,300. Mae hyn 20.9% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 32.0% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn y lefel uchaf erioed o drafodion ym Mehefin 2021, a’r lleihad a ddilynodd yng Ngorffennaf.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Awst 2021 fod 74,500 o forgeisi wedi eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai yn Awst 2021 (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol), sydd i lawr o 75,100 yng Ngorffennaf 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021, i fyny o 8.5% yng Ngorffennaf 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Awst 2021 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 16.9%.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 12.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 9.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £194,575 2.8% 12.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2021) £153,449 2.9% 9.0%
Lloegr £280,921 3.2% 9.8%
Yr Alban £180,832 1.7% 16.9%
De Ddwyrain Lloegr £358,070 1.9% 8.7%
De Orllewin Lloegr £288,658 4.2% 8.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £221,693 2.7% 10.3%
Dwyrain Lloegr £324,510 2.9% 9.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £228,593 2.9% 11.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £149,042 2.4% 13.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £194,821 4.5% 12.4%
Llundain £525,893 5.6% 7.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £185,968 1.5% 8.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.9% rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf ac Awst 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Gorffennaf ac Awst 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2021 Awst 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £411,649 £364,047 13.1%
Tŷ pâr £254,115 £228,834 11.0%
Tŷ teras £214,083 £194,722 9.9%
Fflat neu fflat deulawr £220,756 £205,788 7.3%
Holl £264,244 £238,998 10.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2021 Mehefin 2020
Lloegr 41,232 46,664
Gogledd Iwerddon (gwerthiannau misol cyfartalog Chwarter 2 – 2021) 2,396 670
Yr Alban 10,763 4,089
Cymru 1,969 2,013

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 5.3% yn Lloegr, 184.1% yn yr Alban a 12.5% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 335.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 220.7% yn Lloegr, 173.6% yn yr Alban, 212.4% yng Nghymru a 203.1% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mehefin

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 24.5% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 217.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £340,936 4.0% 20.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £259,743 4.6% 12.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £220,460 2.5% 9.9%
Cyn berchen-feddiannydd £309,462 3.5% 11.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Awst 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £249,900 2.8% 10.2%
Morgais £276,207 3.1% 10.8%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915