Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2016

Cyhoeddwyd 13 Medi 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Gorffennaf 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £216,750
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.3%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.4%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 113.7 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Parhaodd y pwysau ar brisiau tai i dyfu yng Ngorffennaf, gan adlewyrchu cryfder y galw o’i gymharu â’r cyflenwad yn y farchnad dai. Fodd bynnag, cafwyd arwyddion bod y farchnad wedi oeri ychydig, gyda sawl dangosydd yn awgrymu bod y galw am dai a’r cyflenwad tai wedi gwanhau dros y misoedd diwethaf.

O ran y galw am dai, gostyngodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 5.1% yng Ngorffennaf 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, gan barhau â’r duedd am i lawr ers dechrau’r flwyddyn. Felly, mae cymeradwyaethau misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y 10 mis cyn y newidiadau i’r doll stampiau yn Ebrill 2016. Cwympodd gwerthiannau tai y DU gan 0.9% yng Ngorffennaf 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, sy’n golygu bod gwerthiannau tai misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn 2014 a 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stampiau yn gynnar yn 2016. Ar ben hynny, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Gorffennaf fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cwympo am y pedwerydd mis yn olynol, gan effeithio ar bob rhanbarth yn y DU.

O ran y cyflenwad tai, nododd RICS fod rhestriadau gwerthiannau newydd ar y farchnad wedi gostwng ar y gyfradd fisol gyflymaf erioed ar gyfer pob un o’r tri mis diwethaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu yr ONS (sy’n cwmpasu cyfnod byr iawn ar ôl y refferendwm yn unig) fod y farchnad wedi arafu’n gymedrol, gydag allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn gostwng gan 0.4% ym Mehefin o’i gymharu â Mai. Fodd bynnag, parhaodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn 3.5% yn uwch nag ym Mehefin 2015. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr (diweddariad Awst) y rhagwelir i weithgarwch y farchnad dai leihau, ond nid oedd yn glir a oedd hyn oherwydd ansicrwydd ynghylch y refferendwm neu ffactorau tymhorol a llai o alw gan landlordiaid prynu i osod.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Welsh Annual price change for UK by country over the past five years

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £144,828 -1.8% 4.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) £123,241 3.8% 7.8%
Lloegr £232,885 0.5% 9.1%
Yr Alban £143,711 1.3% 3.4%
De Ddwyrain Lloegr £313,315 0.6% 11.9%
De Orllewin Lloegr £237,291 -0.3% 7.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £173,783 0.5% 7.8%
Dwyrain Lloegr £273,806 0.6% 13.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £176,598 -0.8% 6.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £129,750 2.3% 5.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £150,082 0.8% 6.1%
Llundain £484,716 1.0% 12.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £151,581 0.2% 4.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Monthly price changes by country and government office region

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2016 Gorffennaf 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £325,943 £300,451 8.5%
Tŷ pâr £203,734 £187,831 8.5%
Tŷ teras £176,013 £162,773 8.1%
Fflat neu fflat deulawr £195,178 £180,567 8.1%
Holl £216,750 £200,141 8.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Mai 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mai 2016 Mai 2015 Gwahaniaeth
Cymru 2,596 3,685 -29.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) 4,075 5,200 -21.6%
Lloegr 49,795 74,897 -33.5%
Yr Alban 7,131 8,569 -16.8%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Mai 2016

Welsh Sales volumes for 2012 to 2016 by country

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £273,072 -2.1% 15.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £212,941 0.6% 7.8%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,756 0.3% 8.1%
Cyn berchen-feddiannydd £251,443 0.5% 8.6%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £205,876 0.3% 7.7%
Morgais £226,406 0.5% 8.7%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035