Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2017
Cyhoeddwyd 15 Awst 2017
1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£223,257
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
4.9%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.8%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
117.1
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017, sef 0.1 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn hyd at Fai 2017. Er bod y gyfradd twf flynyddol wedi arafu ers canol 2016 mae wedi parhau tua 5% yn ystod 2017.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mehefin 2017 fod disgwyliadau pris yn parhau fymryn yn gadarnhaol tra bo ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau dros y mis.
Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu ragor wedi cynyddu gan 1.0% ym Mehefin 2017 o’i gymharu â Mehefin 2016. O gymharu Mehefin 2017 â Mai 2017, cwympodd trafodion eiddo gan 3.3%.
Gan edrych yn fwy manwl ar lefel ranbarthol y DU, roedd y twf mwyaf mewn prisiau tai yn Nwyrain Lloegr (7.2%) ac roedd y twf lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr (2.5%) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2017. Gwelwyd y twf blynyddol lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr am y 15 mis diwethaf, a gwelwyd y twf blynyddol cyflymaf yn Nwyrain Lloegr am y 14 mis diweddaf ar draws rhanbarthau Lloegr.
Yn ôl crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer ail chwarter 2017, roedd gweithgarwch wedi tawelu yn y farchnad dai yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig wrth i’r galw leihau o’i gymharu â’r cyflenwad.
Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu newydd wedi parhau’n negyddol am yr unfed mis ar bymtheg yn olynol. Nodwyd hefyd bod lefelau stoc asiantau tai cyfartalog wedi cyrraedd eu lefelau isaf erioed gyda diffyg cyflenwad yn parhau i gynnal prisiau.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017 (bron yn ddigyfnewid o’r 5.0% a welwyd yn y flwyddyn hyd at Fai 2017).
Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau gan 5.2% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2017.
Gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai yng Nghymru hefyd gan 3.6% dros y 12 mis diwethaf. Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.9% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn i Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2017.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £151,672 | 2.9% | 3.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) | £128,650 | 3.1% | 4.4% |
Lloegr | £240,325 | 0.8% | 5.2% |
Yr Alban | £144,253 | 0.1% | 2.9% |
De Ddwyrain Lloegr | £320,168 | 0.6% | 4.9% |
De Orllewin Lloegr | £246,159 | 0.7% | 5.3% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £182,166 | 1.0% | 7.1% |
Dwyrain Lloegr | £286,623 | 0.3% | 7.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £185,082 | 0.5% | 4.7% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £130,065 | 1.9% | 2.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £156,392 | 1.9% | 5.5% |
Llundain | £481,556 | -0.7% | 2.9% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £157,762 | 2.2% | 4.9% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Mehefin 2017 | Mehefin 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £334,276 | £319,683 | 4.6% |
Tŷ pâr | £209,356 | £199,148 | 5.1% |
Tŷ teras | £181,049 | £173,343 | 4.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £203,089 | £192,478 | 5.5% |
Holl | £223,257 | £212,887 | 4.9% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Ebrill 2017
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Ebrill 2017 | Ebrill 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 53,410 | 52,590 | 1.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) | 5,106 | 4,865 | 5.0% |
Yr Alban | 7,908 | 6,820 | 16.0% |
Cymru | 3,101 | 2,822 | 9.9% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Ebrill 2017
Yn Ebrill 2017 cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 3.8% o’i gymharu ag Ebrill 2016. Fodd bynnag, roedd lefel is o drafodion yn Ebrill 2016 yn gysylltiedig â chyflwyno’r gyfradd treth uwch ar eiddo ychwanegol o 1 Ebrill 2016.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £296,917 | -0.9% | 15.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £218,5571 | 1.0% | 4.1% |
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £188,947 | 1.0% | 4.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £258,417 | 0.7% | 5.0% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £212,925 | 1.1% | 5.1% |
Morgais | £232,911 | 0.8% | 4.9% |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387