Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2017
Cyhoeddwyd 16 May 2017
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£215,848
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
4.1%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
-0.6%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
113.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017, sef 1.5 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2017.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mawrth 2017 fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn parhau i fod yn “weddol araf”. Mae ymholiadau gan brynwyr newydd a gwerthiannau a gytunwyd yn parhau heb eu newid ar y cyfan ers dechrau’r flwyddyn. Mae hyn yn cyd-fynd ag ystadegau Trafodion Eiddo y DU a ddangosodd ym Mawrth 2017 fod cyfanswm y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu uwch wedi parhau ar lefel debyg am y 3 mis diwethaf.
Yn ôl crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr (PDF) nododd rhai asiantau tai fod nifer yr eiddo ar eu llyfrau yn “llai na hanner y norm cyn yr argyfwng” gyda “goralw cymharol fach” yn cynnal “chwyddiant lefel isel mewn prisiau tai”. Yn Llundain, nododd yr un adroddiad ei bod yn cymryd yn hwy i werthu eiddo a bod y chwyddiant mewn prisiau tai wedi “lleihau’n sylweddol”. Cadarnheir hyn gan yr amcangyfrif Mynegai Prisiau Tai y DU diweddaraf ar gyfer Llundain am y flwyddyn hyd at Fawrth 2017 o 1.5%, sef 3.2 pwynt canran yn is nag yn Chwefror 2017.
Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu wedi parhau i ddisgyn ym Mawrth. Nododd hefyd fod lefelau stoc cyfartalog asiantau tai wedi gostwng i’r nifer lleiaf erioed a bod hyn yn lleihau gweithgarwch gwerthu.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £147,746 | 1.4% | 4.3% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) | £124,007 | -0.8% | 4.3% |
Lloegr | £232,530 | -0.6% | 4.4% |
Yr Alban | £137,139 | -1.0% | 0.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £311,514 | -0.5% | 3.8% |
De Orllewin Lloegr | £240,222 | -0.7% | 2.8% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £176,213 | -0.2% | 6.7% |
Dwyrain Lloegr | £277,127 | -0.8% | 6.7% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £180,293 | 0.3% | 6.5% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £122,298 | -1.3% | -0.4% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £150,250 | -0.6% | 6.2% |
Llundain | £471,742 | -1.5% | 1.5% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £149,606 | -0.6% | 4.0% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Mawrth 2017 | Mawrth 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £324,927 | £313,564 | 3.6% |
Tŷ pâr | £203,177 | £192,884 | 5.3% |
Tŷ teras | £174,036 | £167,656 | 3.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £195,830 | £189,180 | 3.5% |
Holl | £215,847 | £207,333 | 4.1% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Ionawr 2017
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Ionawr 2017 | Ionawr 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 50,790 | 60,923 | -16.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) | 4,379 | 6,127 | -28.5% |
Yr Alban | 6,239 | 6,118 | 2.0% |
Cymru | 2,762 | 2,828 | -2.3% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Ionawr 2017
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £262,299 | -6.4% | 9.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,535 | -0.2% | 3.7% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,407 | -0.4% | 4.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £249,757 | -0.7% | 3.8% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £206,258 | -0.6% | 4.1% |
Morgais | £224,740 | -0.6% | 4.1% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban
Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387