Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2018
Cyhoeddwyd 23 May 2018
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2018
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£224,144
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
4.2%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
-0.2%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
117.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2018 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mehefin 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018, yn ddigyfnewid o’r flwyddyn hyd at Chwefror 2018.
Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mawrth 2018 fod y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau am y 12fed mis yn olynol. Mae RICS yn sôn am bryderon ynghylch fforddiadwyedd a diffyg cyfarwyddiadau newydd fel ffactorau sy’n llesteirio galw.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod y gweddill net ar gyfer ei gyfres cyfarwyddiadau newydd wedi gostwng unwaith eto. Mae stociau cyfartalog fesul asiant tai sy’n ymateb wedi aros yn agos i’r lefel isaf erioed. Mae disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn parhau i fod yn wastad yn y tymor byr. Ceir mwy o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy, yn enwedig o ran prisiau.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2018 ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafwyd 92,270 o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 11.8% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Chwefror a Mawrth 2018, lleihaodd trafodion gan 7.2%.
Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 62,914 o forgeisiau eu cymeradwyo ym Mawrth 2018. Mae hwn yn lleihad o 867 ers y mis blaenorol ac yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 65,162. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.
Wrth edrych ar y lefel sirol a rhanbarthol, dangosodd yr Alban y twf blynyddol mwyaf ar 6.7%, i lawr o 6.8% yn y mis blaenorol. Yr ardal oedd yr ail gyflymaf i dyfu oedd Dwyrain Lloegr ar 5.8%. Gwelwyd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain a gofnododd dwf blynyddol negyddol mewn prisiau am yr ail fis yn olynol ar -0.7%, i lawr o -0.1% yn y mis blaenorol.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018 (yn ddigyfnewid o Chwefror 2018).
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 6.7% dros y flwyddyn hyd at Fawrth 2018.
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 3.5% dros y 12 mis diwethaf.
Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.0% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.2% dros y flwyddyn i chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2018.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £152,999 | -0.1% | 3.5% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) | £130,026 | 0.3% | 4.2% |
Lloegr | £240,949 | -0.3% | 4.0% |
Yr Alban | £146,009 | 0.5% | 6.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £320,682 | -0.2% | 3.3% |
De Orllewin Lloegr | £249,839 | -0.3% | 4.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £184,736 | -0.6% | 5.6% |
Dwyrain Lloegr | £291,415 | 1.0% | 5.8% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £188,697 | -0.8% | 5.1% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £124,381 | -1.5% | 2.1% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £157,461 | -0.3% | 5.2% |
Llundain | £471,944 | -0.9% | -0.7% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £155,251 | -0.3% | 3.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Mawrth 2018 a Chwefror 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.
Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Mawrth 2018 | Mawrth 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £342,722 | £325,539 | 5.3% |
Tŷ pâr | £210,283 | £201,056 | 4.6% |
Tŷ teras | £180,941 | £172,990 | 4.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £200,157 | £196,247 | 2.0% |
Holl | £224,144 | £215,078 | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Ionawr 2018 | Ionawr 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 50,583 | 57,498 | -12.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) | 4,545 | 5,187 | -12.4% |
Yr Alban | 5,909 | 6,380 | -7.4% |
Cymru | 2,834 | 3,056 | -7.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Ionawr
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yn Ionawr 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 12.9% o’i gymharu ag Ionawr 2017. O’i gymharu â Rhagfyr 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 39.4%.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £282,885 | 1.8% | 5.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £220,600 | -0.5% | 4.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £188,429 | -0.5% | 3.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £260,893 | 0.0% | 4.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Mawrth 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £213,915 | -0.2% | 4.2% |
Morgais | £233,696 | -0.2% | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387