Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2020

Cyhoeddwyd 20 May 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £231,855

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.1%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 121.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Yn dilyn cyhoeddi mynegai Mawrth ar 20 Mai, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei atal nes clywir yn wahanol. Gweler gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn seiliedig ar drafodion tai wedi eu cwblhau. Fel arfer, gall gymryd 6 i 8 wythnos i gwblhau prynu tŷ. Felly, bydd y data prisiau sy’n bwydo i mewn i Fynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2020 yn adlewyrchu’r trafodion a gwblhawyd a ddigwyddodd cyn i fesurau’r llywodraeth i leihau lledaeniad coronafeirws (COVID-19) gael eu gweithredu.

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, i fyny o 2.0% yn Chwefror 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2019 a Mawrth 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 3.8% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2020 (Ionawr – Mawrth 2020). Roedd y twf blynyddol uchaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Llundain, lle y tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 4.7%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf, a’r unig dwf blynyddol negyddol yn Swydd Efrog a Humber, lle y gostyngodd prisiau gan 1.0% dros y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

Adroddodd yr Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mawrth 2020 fod prisiau tai wedi codi yn y tri mis hyd at Fawrth, ond bod y rhagolygon yn troi’n negyddol, a chyda’r gofyniad i asiantau gau, mae’r disgwyliadau ar gyfer y dyfodol agos yn syrthio’n sylweddol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2020 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai wedi gweld dirywiad amlwg oherwydd yr ansicrwydd economaidd o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 99,440. Mae hyn 0.3% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.2%.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi lleihau i 56,200, sef eu lefel isaf er Mawrth 2013.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, i fyny o 2.0% yn Chwefror 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 3.8% dros Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2020.

Cynyddodd prisiau tai yn Lloegr gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

Cynyddodd prisiau tai yn yr Alban gan 1.5% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

Cynyddodd prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon gan 2.5% dros Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £161,684 -2.8% 1.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2020) £140,580 0.2% 3.8%
Lloegr £248,271 -0.1% 2.2%
Yr Alban £151,856 0.4% 1.5%
De Ddwyrain Lloegr £323,353 0.6% 2.0%
De Orllewin Lloegr £263,360 2.0% 4.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £194,664 0.4% 2.1%
Dwyrain Lloegr £291,254 0.0% 1.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £195,917 -2.3% 0.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £126,945 -0.6% 1.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £166,202 0.2% 3.4%
Llundain £485,794 1.2% 4.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £159,208 -3.6% -1.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2019 a Mawrth 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2020 Mawrth 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £354,304 £345,433 2.6%
Tŷ pâr £220,269 £215,930 2.0%
Tŷ teras £186,610 £183,158 1.9%
Fflat neu fflat deulawr £204,849 £201,004 1.9%
Holl £231,855 £227,104 2.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ionawr 2020 Ionawr 2019
Lloegr 50,456 54,134
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2020) 4,746 5,177
Yr Alban 6,860 6,654
Cymru 2,917 3,070

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.4% yn Lloegr, cynyddodd gan 2.3% yng Nghymru, cynyddodd gan 5.3% yn yr Alban a chynyddodd gan 11.1% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 6.4% yn Lloegr, gan 3.2% yn yr Alban, a chan 6.7% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Ionawr

A chart showing sales volumes by country for January 2016, January 2018, January 2018, January 2019 and January 2020..

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2020, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 2.5%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £302,749 8.0% 7.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £228,021 -0.4% 1.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £194,718 -0.3% 1.8%
Cyn berchen-feddiannydd £269,186 -0.1% 2.3%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mawrth 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £220,494 0.0% 2.1%
Morgais £241,506 -0.3% 2.0%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Hydref 2019 a Rhagfyr 2019, cafwyd 253,257 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,754 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,165 o eiddo
  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 16,929 o eiddo
  • yr Alban oedd £78,000 i £99,999 – prynwyd 3,055 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 2019 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 74
£25,000 i £49,999 1,237
£50,000 i £74,999 5,392
£75,000 i £99,999 9,516
£100,000 i £124,999 12,362
£125,000 i £149,999 15,801
£150,000 i £174,999 16,929
£175,000 i £199,999 16,607
£200,000 i £224,999 14,353
£225,000 i £249,999 14,390
£250,000 i £274,999 13,168
£275,000 i £299,999 11,919
£300,000 i £324,999 9,979
£325,000 i £349,999 8,720
£350,000 i £374,999 7,385
£375,000 i £399,999 6,805
£400,000 i £424,999 5,373
£425,000 i £449,999 4,594
£450,000 i £474,999 3,910
£475,000 i £499,999 3,657
£500,000 i £524,999 2,708
£525,000 i £549,999 2,460
£550,000 i £574,999 2,121
£575,000 i £599,999 1,977
£600,000 i £624,999 1,657
£625,000 i £649,999 1,336
£650,000 i £674,999 1,203
£675,000 i £699,999 1,113
£700,000 i £724,999 881
£725,000 i £749,999 818
£750,000 i £774,999 839
£775,000 i £799,999 667
£800,000 i £824,999 567
£825,000 i £849,999 500
£850,000 i £874,999 554
£875,000 i £899,999 454
£900,000 i £924,999 354
£925,000 i £949,999 326
£950,000 i £974,999 291
£975,000 i £999,999 256
£1,000,000 i £1,249,999 1,613
£1,250,000 i £1,499,999 923
£1,500,000 i £1,749,999 463
£1,750,000 i £1,999,999 257
£2,000,000 i £4,999,999 597
£5,000,000 i £9,999,999 58
Mwy na £10,000,000 24

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 14
£25,000 i £49,999 165
£50,000 i £74,999 726
£75,000 i £99,999 965
£100,000 i £124,999 984
£125,000 i £149,999 1,165
£150,000 i £174,999 847
£175,000 i £199,999 520
£200,000 i £224,999 316
£225,000 i £249,999 256
£250,000 i £274,999 170
£275,000 i £299,999 132
£300,000 i £324,999 71
£325,000 i £349,999 68
£350,000 i £374,999 38
£375,000 i £399,999 45
£400,000 i £424,999 22
£425,000 i £449,999 13
£450,000 i £474,999 8
£475,000 i £499,999 13
Mwy na £500,000 45

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 155
£25,000 i £49,999 1,052
£50,000 i £74,999 2,448
£75,000 i £99,999 3,055
£100,000 i £124,999 2,768
£125,000 i £149,999 3,036
£150,000 i £174,999 2,655
£175,000 i £199,999 2,557
£200,000 i £224,999 1,917
£225,000 i £249,999 1,637
£250,000 i £274,999 1,260
£275,000 i £299,999 1,098
£300,000 i £324,999 787
£325,000 i £349,999 570
£350,000 i £374,999 397
£375,000 i £399,999 346
£400,000 i £424,999 267
£425,000 i £449,999 229
£450,000 i £474,999 181
£475,000 i £499,999 145
£500,000 i £524,999 109
£525,000 i £549,999 90
£550,000 i £574,999 83
£575,000 i £599,999 66
£600,000 i £624,999 58
£625,000 i £649,999 39
£650,000 i £674,999 30
£675,000 i £699,999 40
£700,000 i £724,999 35
£725,000 i £749,999 21
£750,000 i £774,999 16
£775,000 i £799,999 16
£800,000 i £824,999 11
£825,000 i £849,999 9
£850,000 i £874,999 8
£875,000 i £899,999 6
£900,000 i £924,999 7
£925,000 i £949,999 6
£950,000 i £974,999 7
£975,000 i £999,999 5
£1,000,000 i £1,249,999 37
£1,250,000 i £1,499,999 20
£1,500,000 i £1,749,999 9
£1,750,000 i £1,999,999 2
£2,000,000 i £4,999,999 12

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Mwy na £25,000 2
£25,000 i £49,999 116
£50,000 i £74,999 577
£75,000 i £99,999 1,222
£100,000 i £124,999 1,515
£125,000 i £149,999 1,754
£150,000 i £174,999 1,457
£175,000 i £199,999 1,218
£200,000 i £224,999 881
£225,000 i £249,999 797
£250,000 i £274,999 610
£275,000 i £299,999 508
£300,000 i £324,999 334
£325,000 i £349,999 271
£350,000 i £374,999 191
£375,000 i £399,999 181
£400,000 i £424,999 113
£425,000 i £449,999 95
£450,000 i £474,999 59
£475,000 i £499,999 51
£500,000 i £524,999 36
£525,000 i £549,999 29
£550,000 i £574,999 35
£575,000 i £599,999 26
£600,000 i £624,999 21
£625,000 i £649,999 8
£650,000 i £674,999 10
£675,000 i £699,999 11
£700,000 i £724,999 9
£725,000 i £749,999 6
£750,000 i £774,999 6
£775,000 i £799,999 6
£800,000 i £824,999 4
£825,000 i £849,999 4
£850,000 i £874,999 5
£875,000 i £899,999 3
£925,000 i £949,999 4
£950,000 i £974,999 3
£1,000,000 i £1,249,999 2
£1,500,000 i £1,749,999 3
£2,000,000 i £4,999,999 1

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915