Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2021

Cyhoeddwyd 14 July 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £254,624

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.0%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.9%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 133.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2021 am 9.30am ddydd Mercher 18 Awst 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i fyny o 9.6% yn Ebrill 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Ebrill a Mai 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill a Mai 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 15.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mai 2021 fod galw cynyddol a lleihad yn y cyfarwyddiadau newydd yn parhau i yrru prisiau tai yn uwch.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 2 fod y galw cryf yn parhau am dai ar draws y rhan fwyaf o’r DU a phrinder eiddo i’w gwerthu, a bod hyn wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 114,940. Mae hyn 138.2% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Ebrill a Mai 2021, lleihaodd trafodion yn y DU gan 3.8% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Mai 2021 mai nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) ym Mai 2021 oedd 87,500, sydd ychydig yn uwch nag yn Ebrill 2021 ond yn is na’r brig diweddar o 103,700 yn Nhachwedd 2020.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i fyny o 9.6% yn Ebrill 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fai 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 13.3%.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 12.1% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 9.7% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 6.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £184,297 0.8% 13.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) £149,178 1.1% 6.0%
Lloegr £271,434 0.4% 9.7%
Yr Alban £171,448 5.4% 12.1%
De Ddwyrain Lloegr £350,016 1.4% 9.1%
De Orllewin Lloegr £277,603 -0.6% 8.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £216,077 -0.2% 11.0%
Dwyrain Lloegr £310,200 -1.0% 6.9%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £219,793 0.8% 9.8%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £143,129 1.4% 11.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £189,245 1.4% 15.2%
Llundain £497,948 -0.7% 5.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £181,856 0.8% 10.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Ebrill a Mai 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill a Mai 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Ebrill a Mai 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2021 Mai 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £391,656 £351,885 11.3%
Tŷ pâr £242,634 £221,064 9.8%
Tŷ teras £208,810 £187,513 11.4%
Fflat neu fflat deulawr £215,731 £202,515 6.5%
Holl £254,624 £231,508 10.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2021 Mawrth 2020
Lloegr 80,257 57,626
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) 2,244 1,788
Yr Alban 11,968 6,447
Cymru 3,515 3,340

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 71.1% yn Lloegr, 99.5% yn yr Alban, a 24.2% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 41.8% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 103.7% yn Lloegr, 94.0% yn yr Alban, 55.6% yng Nghymru a 75.9% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mawrth

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 70.9% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 100.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £325,483 5.1% 12.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £251,199 1.5% 9.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £213,336 0.7% 9.5%
Cyn berchen-feddiannydd £296,872 1.1% 10.7%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £241,266 1.0% 10.0%
Morgais £265,914 0.9% 10.1%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915