Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2020

Cyhoeddwyd 20 January 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £249,633

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 7.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 130.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2020 am 9.30am ddydd Mercher 17 Chwefror 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 7.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, i fyny o 5.9% yn Hydref 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Swydd Gaerefrog a’r Humber a Llundain lle cynyddodd prisiau gan 9.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yn Nwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, i fyny o 4.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Tachwedd 2020 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn dangos bod prisiau yn parhau i godi’n sylweddol ar draws y rhan fwyaf o’r DU, er bod disgwyliadau yn y tymor byr ar gyfer prisiau a thrafodion yn rhoi darlun mwy cymedrol dros y misoedd nesaf.

Nododd Crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – Chwarter 4 2020 bod cysylltiadau wedi cofnodi arafu cymedrol ym mis Tachwedd yn dilyn sawl mis o weithgaredd bywiog. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cyfyngiadau oedd yn gysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) a gyflwynwyd mewn gwahanol rannau o’r DU. Fodd bynnag, cefnogwyd y galw gan brynwyr oedd am gwblhau trafodion prynu tŷ cyn i’r toriad dros dro mewn treth stamp ddod i ben ym Mawrth 2021.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2020, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 115,190. Mae hyn 19.3% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Hydref a Thachwedd 2020, cynyddodd trafodion y DU gan 8.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Tachwedd 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu ymhellach yn Nhachwedd 2020 i 105,000, y nifer fwyaf er Awst 2007.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 7.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, i fyny o 5.9% yn Hydref 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 8.6%.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 7.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 7.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 2.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £180,229 2.0% 7.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) £143,205 1.5% 2.4%
Lloegr £266,742 1.2% 7.6%
Yr Alban £165,703 0.9% 8.6%
De Ddwyrain Lloegr £342,271 1.2% 6.2%
De Orllewin Lloegr £278,391 1.1% 8.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £208,662 0.6% 7.1%
Dwyrain Lloegr £302,624 -0.3% 4.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £213,974 1.0% 6.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £140,248 2.6% 8.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £180,280 0.2% 8.5%
Llundain £513,997 4.0% 9.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £180,856 1.9% 9.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Hydref a Thachwedd 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2020 Tachwedd 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £383,130 £353,249 8.5%
Tŷ pâr £238,221 £221,620 7.5%
Tŷ teras £203,717 £188,207 8.2%
Fflat neu fflat deulawr £213,303 £202,398 5.4%
Holl £249,633 £232,100 7.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2020 Medi 2019
Lloegr 53,428 69,020
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) 4,630 6,769
Yr Alban 10,168 8,826
Cymru 2,518 3,923

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 13.3% yn Lloegr, gan 28.8% yng Nghymru, a chynyddodd 17.8% yn yr Alban. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 22.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.6% yn Lloegr, gan 20.9% yng Nghymru, wedi cynyddu gan 18.6% yn yr Alban ac wedi lleihau gan 5.8% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Medi

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 11.4% yn y flwyddyn hyd at Medi 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 0.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £302,927 -0.5% 4.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £239,417 1.4% 4.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £209,163 1.2% 7.3%
Cyn berchen-feddiannydd £291,278 1.2% 8.1%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Tachwedd 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £237,355 1.2% 7.4%
Morgais £260,518 1.3% 7.8%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915