Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2016
Cyhoeddwyd 13 Rhagfyr 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Hydref 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £216,674
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.9%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.1%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 113.6 (Ionawr 2015 = 100)
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Hydref iddo fod yn gyfnod o alw cynyddol cymharol fach a thwf cyson yn lefelau prisiau. Tyfodd prisiau tai gan 6.9% yn y flwyddyn hyd at Hydref, sef 0.1 pwynt canran yn is nag ym Medi. Yn ôl crynodeb Asiantau Banc Lloegr o amodau busnes, ar gyfer Medi a Hydref 2016 ceir tystiolaeth o adfywiad yn y farchnad dai ers y gwendid a welwyd yn union ar ôl y refferendwm. Roedd graddfa’r adfywiad yn amrywio ar draws ardaloedd a bandiau pris.
Gellir gweld yr amrywiad ar draws ardaloedd o fewn y mynegai prisiau tai ar lefel ranbarthol. Er enghraifft, mae’r twf yn Nwyrain Lloegr wedi parhau i fod yn gryf, gan gwympo ychydig o 14.9% i 12.3% o dwf blynyddol rhwng Mehefin 2016 a Hydref 2016. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â Llundain a welodd arafu mwy amlwg, gan gwympo o 13.8% i 7.7% o dwf blynyddol dros yr un cyfnod.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Hydref. Yn ôl Banc Lloegr, cynyddodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 6.2% o Fedi i Hydref 2016, er bod hyn yn parhau i fod 3.3% yn is na Hydref 2015. Cynyddodd gwerthiannau tai yn y DU gan 1.0% rhwng Medi a Hydref 2016 yn ôl Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. O’i gymharu â Hydref 2015 mae lefel y gwerthiannau tai yn Hydref 2016 8.0% yn is.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS ostyngiad yn rhestriadau gwerthiannau newydd yn Hydref 2016 o’i gymharu â Medi 2016. Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd newid yng nghyfanswm y tai newydd o’i gymharu â’r ail a’r trydydd chwarter, ond mae cyfanswm y tai newydd 8.7% yn uwch nag yn nhrydydd chwarter 2015.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £147,065 | 1.0% | 4.4% |
Gogledd Iwerddon | £124,093 | 0.8% | 5.4% |
Lloegr | £232,655 | -0.1% | 7.4% |
Yr Alban | £143,131 | 0.8% | 4.0% |
De Ddwyrain Lloegr | £312,509 | 0.5% | 9.1% |
De Orllewin Lloegr | £240,322 | 0.2% | 7.2% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £176,084 | 1.0% | 7.5% |
Dwyrain Lloegr | £279,148 | 1.3% | 12.3% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £177,937 | -0.7% | 6.2% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £124,749 | -1.3% | 2.7% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £148,586 | -1.2% | 4.6% |
Llundain | £474,475 | -1.2% | 7.7% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £150,401 | -0.2% | 4.2% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Hydref 2016 | Hydref 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £330,473 | £305,634 | 8.1% |
Tŷ pâr | £203,588 | £190,127 | 7.1% |
Tŷ teras | £173,515 | £164,699 | 5.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £195,945 | £182,107 | 7.6% |
Holl | £216,674 | £202,663 | 6.9% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Awst 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Awst 2016 | Awst 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 67,396 | 84,565 | -20.3% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) | 5,200 | 5,820 | -10.7% |
Yr Alban | 8,468 | 8,715 | -2.8% |
Cymru | 3,558 | 4,025 | -11.6% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Awst 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £307,983 | 11.1% | 28.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,917 | -0.7% | 5.4% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,073 | -0.2% | 6.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £251,917 | 0.3% | 7.4% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,802 | -0.1% | 6.4% |
Morgais | £226,274 | 0.1% | 7.2% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035