Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2017
Cyhoeddwyd 12 December 2017
1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£223,807
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
4.5%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
-0.5%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
117.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017, gyda gostyngiad o 0.3 pwynt canran ers y mis blaenorol.
O ran y galw am dai nododd Arolwg o’r Farchnad Breswyl (PDF) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2017 fod y prif ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos wedi llithro i -11% o -8% ym Medi, ac iddynt fod yn negyddol ym mhob un o’r tri mis diwethaf. Mae ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau i awgrymu bod galw yn meddalu, gyda’r gweddill cenedlaethol net yn parhau ar -20%.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU (PDF) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 9.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017. Rhwng Medi 2017 a Hydref 2017, cynyddodd trafodion eiddo gan 1.7%.
Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF) Asiantau Banc Lloegr fod galw yn y farchnad dai wedi cryfhau at ei gilydd ond bod gwahaniaeth rhwng ardaloedd, oherwydd ceir arwyddion o ormodedd o gyflenwad yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr ond gormodedd o alw yn y rhan fwyaf o ardaloedd eraill y DU.
Wrth edrych yn fwy manwl ar lefelau rhanbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar 7.0%, i fyny o 6.3% ym Medi 2017. Dilynwyd hyn gan Dde-orllewin Lloegr a welodd dwf blynyddol o 6.7%. Roedd y twf blynyddol arafaf yn Llundain ar 2.1%, i lawr o 2.9% ym Medi 2017. Dyma’r 11eg mis yn olynol i’r twf mewn prisiau tai yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU. Roedd yr ail dwf blynyddol arafaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ar 2.4%.
Ar yr ochr gyflenwi, noddodd RICS fod dirywiad wedi ailgychwyn yn llif y rhestriadau newydd sy’n dod i’r farchnad, gyda gweddill net o -14%, yn dilyn cyfnod o ddau fis o sefydlogrwydd.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017 (i lawr o 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017).
Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 4.7% dros y flwyddyn hyd at Hydref 2017.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 4.5% dros y 12 mis diwethaf.
Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.8% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £153,316 | 0.8% | 4.5% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2017) | £132,169 | 3.0% | 6.0% |
Lloegr | £240,860 | -0.6% | 4.7% |
Yr Alban | £143,544 | -0.7% | 2.8% |
De Ddwyrain Lloegr | £322,311 | -0.5% | 4.6% |
De Orllewin Lloegr | £251,376 | 0.2% | 6.7% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £184,544 | 0.2% | 7.0% |
Dwyrain Lloegr | £289,168 | 0.1% | 6.1% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £186,351 | -1.1% | 5.2% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £127,224 | -0.1% | 2.4% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £154,056 | -2.0% | 3.9% |
Llundain | £481,102 | -0.9% | 2.1% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £155,281 | -1.1% | 3.3% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Hydref 2017 | Hydref 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £340,996 | £323,441 | 5.4% |
Tŷ pâr | £211,014 | £200,703 | 5.1% |
Tŷ teras | £179,327 | £172,619 | 3.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £201,527 | £194,540 | 3.6% |
Holl | £223,807 | £214,107 | 4.5% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Awst 2017 | Awst 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 70,117 | 79,655 | -12.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2017) | 5,453 | 5,968 | -8.6% |
Yr Alban | 9,282 | 8,641 | 7.4% |
Cymru | 3,982 | 4,122 | -3.4% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Awst 2017
Yn Awst 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 9.7% o’i gymharu ag Awst 2016. O’i gymharu â Gorffennaf 2017, cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 3.0%.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog Awst 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £288,931 | -0.5% | 12.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £221,972 | 0.5% | 4.6% |
Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £188,173 | -0.7% | 4.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £260,223 | -0.4% | 4.9% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £213,337 | -0.5% | 4.7% |
Morgais | £233,337 | -0.6% | 4.5% |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387