Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2016
Cyhoeddwyd 15 Tachwedd 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Medi 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £217,888
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 7.7%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.2%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.3 (Ionawr 2015 = 100)
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Medi i’r mis hwn fod yn gyfnod cymharol sefydlog. Tyfodd prisiau tai gan 7.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi, heb eu newid er Awst. Er bod peth tystiolaeth o ychydig o adfywiad yn y galw yn ystod y mis hwn, parhaodd y dangosyddion galw a chyflenwi rywfaint yn wannach nag yn 2015 a dechrau 2016. Ceir tystiolaeth o amrywiadau rhanbarthol gyda Chrynodeb Asiantau Banc Lloegr yn datgan bod arafu amlwg mewn gweithgarwch yn ardal Llundain, ond bod gweithgarwch yn well mewn mannau eraill yn y DU.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Medi – y cynnydd cyntaf er Chwefror. Cododd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 3.2% ym Medi hefyd o’i gymharu ag Awst. Fodd bynnag, mae hyn yn dilyn tri mis o ostyngiadau olynol ac mae nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg yn parhau i fod tua’r un lefel ag yr oedd ar ddechrau 2015. Adlewyrchir hyn yn y data ar gyfer gwerthiannau tai yn y DU a gwympodd gan 4.3% rhwng Awst a Medi, gyda lefelau’n parhau i fod yn is nag yn 2014, 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stamp ar ddechrau 2016.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS hefyd fod rhestriadau gwerthiannau newydd wedi cwympo unwaith eto ym Medi o’i gymharu ag Awst, gan barhau â’r duedd a welwyd dros y saith mis diwethaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol ostyngiad misol o 1.3% yn allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn Awst, er bod allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn parhau 8.0% yn uwch o’i gymharu ag Awst 2015.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £146,388 | 0.2% | 4.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) | £124,093 | 0.8% | 5.4% |
Lloegr | £234,250 | 0.2% | 8.3% |
Yr Alban | £143,006 | 0.2% | 3.4% |
De Ddwyrain Lloegr | £312,609 | -0.9% | 9.9% |
De Orllewin Lloegr | £241,262 | 0.6% | 7.5% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £175,441 | 0.7% | 8.2% |
Dwyrain Lloegr | £277,248 | 0.7% | 12.1% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £180,551 | 0.3% | 7.7% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £125,213 | -1.9% | 1.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £150,845 | 0.2% | 5.7% |
Llundain | £487,649 | 1.4% | 10.9% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £151,399 | -0.4% | 4.7% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Medi 2016 | Medi 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £331,378 | £306,359 | 8.2% |
Tŷ pâr | £204,364 | £189,114 | 8.1% |
Tŷ teras | £175,394 | £164,097 | 6.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £196,653 | £182,638 | 7.7% |
Holl | £217,888 | £202,389 | 7.7% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Gorffennaf 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Gorffennaf 2016 | Gorffennaf 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 66,870 | 93,040 | -28.1% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) | 5,200 | 5,820 | -10.7% |
Yr Alban | 9,108 | 10,021 | -9.1% |
Cymru | 3,525 | 4,603 | -23.4% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Gorffennaf 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £286,092 | 3.2% | 20.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £213,385 | -0.1% | 6.7% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £183,385 | 0.0% | 7.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £253,086 | 0.3% | 7.9% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £206,922 | 0.1% | 6.9% |
Morgais | £227,602 | 0.2% | 8.1% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035