Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2018

Cyhoeddwyd 14 November 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£232,554

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.5%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

122.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2018 am 9.30am ddydd Mercher 19 Rhagfyr 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 3.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018, i fyny o 3.1% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018.Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, mae prisiau tai cyfartalog yn y DU yn ddigyfnewid (0.0%) rhwng Awst 2018 a Medi 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt (Awst 2017 a Medi 2017).

Tyfodd prisiau tai gyflymaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr gyda chynnydd o 6.1% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018, wedi’i ddilyn yn agos gan Ddwyrain Canolbarth Lloegr a gynyddodd gan 6.0% dros y flwyddyn. Gostyngodd prisiau tai yn Llundain gan 0.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018. Mae prisiau tai wedi bod yn gostwng yn Llundain dros y flwyddyn er Mawrth 2018.

Yn ôl adroddiad chwyddiant Tachwedd Banc Lloegr y rheswm tebygol dros yr arafu ym marchnad Llundain a welwyd ers canol 2016 yw oherwydd i’r ardal gael ei heffeithio’n anghymesur gan newidiadau i reoliadau a threth, a hefyd gan lefel is o ymfudo net o’r Undeb Ewropeaidd.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2018 Chwarter 3 ei bod hi’n ymddangos bod y farchnad dai wedi meddalu ychydig gyda llai o drafodion a chwyddiant gwannach mewn prisiau mewn sawl ardal.Mae gwerthiannau tai newydd pris is yn parhau i gael eu cynorthwyo gan y cynllun Cymorth i Brynu.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Medi 2018 yn nodi bod y galw cenedlaethol gan brynwyr wedi gwanhau ychydig am yr ail adroddiad yn olynol ar ôl bod yn weddol sefydlog dros y pedwar mis cyn hynny. Ar yr ochr gyflenwi, mae’r gweddill net ar gyfer gwerthiannau newydd eu cytuno wedi parhau’n negyddol ar draws y DU. Yn unol â hynny, mae ei gyfres disgwyliadau gwerthiannau yn negyddol am y 12 mis nesaf ar gyfer y DU gyfan.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yn 98,400.Mae hyn 2.7% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.Rhwng Awst a Medi 2018, lleihaodd trafodion gan 0.5%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai yn ddigyfnewid yn fras ar 65,000 ym Medi 2018. Ystyrir bod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018 (i fyny o 3.1% yn Awst 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru a’r Alban, gyda chynnydd o 5.8% yn y ddwy wlad dros y flwyddyn hyd at Fedi 2018.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.0% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.8% dros y flwyddyn hyd at chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £162,089 0.5% 5.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2018) £135,060 2.3% 4.8%
Lloegr £249,408 0.0% 3.0%
Yr Alban £152,961 -0.1% 5.8%
De Ddwyrain Lloegr £328,059 -0.2% 1.7%
De Orllewin Lloegr £260,142 0.3% 4.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £194,803 1.1% 6.0%
Dwyrain Lloegr £294,027 -0.1% 2.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £199,763 1.1% 6.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £132,049 0.8% 3.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £162,915 -0.8% 3.3%
Llundain £482,241 -0.4% -0.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £162,009 -1.1% 2.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU yn ddigyfnewid (0.0%) rhwng Awst 2018 a Medi 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt (Awst 2017 a Medi 2017). Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Awst 2018 a Medi 2018.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2018 Medi 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £356,912 £339,294 5.2%
Tŷ pâr £219,776 £210,278 4.5%
Tŷ teras £188,629 £181,686 3.8%
Fflat neu fflat deulawr £203,374 £203,910 -0.3%
Holl £232,554 £224,729 3.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2018 Gorffennaf 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 63,774 76,993 -17.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2018) 5,722 6,533 -12.4%
Yr Alban 8,770 8,943 -1.9%
Cymru 3,702 4,143 -10.6%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

Cyfrifwyd yr amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2018 ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 1.3% yn Lloegr a chynyddodd nifer y trafodion gan 0.5% yn yr Alban, 2.9% yng Nghymru a 4.9% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 2.9% yn Lloegr, 13.2% yn yr Alban ac wedi cynyddu gan 3.0% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Gorffennaf

Sales volumes for 2014 to 2018 by country welsh

Yng Ngorffennaf 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 15.1% o’i gymharu â Gorffennaf 2017. O’i gymharu â Mehefin 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 9.2%.

Cyfrifwyd yr amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2018 ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.5%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 6.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £293,064 2.5% 6.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £227,522 1.3% 2.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £195,404 -0.4% 2.9%
Cyn berchen-feddiannydd £270,806 0.3% 3.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Medi 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £221,681 -0.1% 3.3%
Morgais £242,591 0.0% 3.5%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/A siantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
0131 659 6111 Est. 6387