Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2020
Cyhoeddwyd 21 October 2020
Yn berthnasol i England and Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £172,828
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.7%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 126.9
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2020 am 9.30am ddydd Mercher 18 Tachwedd 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 2.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020, i fyny o 2.9% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.1% rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020, o’i gymharu â chynnydd o 2.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2019 ac Awst 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 51.2% yng Nghymru, o 3,584 i 1,750. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 40.4% o 77,858 i 46,365 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Awst 2020 o’i gymharu ag Awst 2019. Gwelwyd y twf cryfaf yng Ngheredigion, gan godi 8.8% i £199,000 yn y flwyddyn hyd at Awst 2020. Mewn cyferbyniad, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful welodd y newid blynyddol isaf, gan ostwng 1.3% i £116,000 a £107,000 yn y drefn honno yn y flwyddyn hyd at Awst 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 4.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020 i £169,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda gostyngiad o 0.1% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020 i £117,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020, i lawr o 2.9% yng Ngorffennaf 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Awst 2020 | Awst 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £156,099 | £150,861 | 3.5% |
Blaenau Gwent | £99,665 | £95,174 | 4.7% |
Bro Morgannwg | £239,766 | £235,186 | 1.9% |
Caerdydd | £217,194 | £211,497 | 2.7% |
Caerffili | £146,602 | £139,621 | 5% |
Casnewydd | £192,971 | £185,941 | 3.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £126,900 | £121,174 | 4.7% |
Ceredigion | £199,226 | £183,056 | 8.8% |
Conwy | £174,102 | £170,247 | 2.3% |
Gwynedd | £165,659 | £158,673 | 4.4% |
Merthyr Tudful | £106,880 | £108,235 | -1.3% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £163,058 | £158,559 | 2.8% |
Powys | £195,315 | £183,229 | 6.6% |
Rhondda Cynon Taf | £115,708 | £117,287 | -1.3% |
Sir Benfro | £185,454 | £177,639 | 4.4% |
Sir Ddinbych | £159,148 | £156,066 | 2% |
Sir Fynwy | £294,386 | £273,382 | 7.7% |
Sir y Fflint | £175,074 | £173,411 | 1% |
Sir Gaerfyrddin | £152,706 | £149,241 | 2.3% |
Tor-faen | £153,126 | £150,379 | 1.8% |
Wrecsam | £163,328 | £160,923 | 1.5% |
Ynys Môn | £187,166 | £182,334 | 2.7% |
Cymru | £172,828 | £168,215 | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £294,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £100,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Awst 2020 | Awst 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £262,266 | £253,963 | 3.3% |
Tŷ pâr | £168,923 | £161,994 | 4.3% |
Tŷ teras | £133,097 | £131,011 | 1.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £117,138 | £117,263 | -0.1% |
Holl | £172,828 | £168,215 | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mehefin 2020 | Mehefin 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 122 | 244 |
Blaenau Gwent | 42 | 63 |
Bro Morgannwg | 76 | 277 |
Caerdydd | 212 | 515 |
Caerffili | 118 | 210 |
Casnewydd | 111 | 214 |
Castell-nedd Port Talbot | 72 | 182 |
Ceredigion | 33 | 60 |
Conwy | 68 | 144 |
Gwynedd | 43 | 141 |
Merthyr Tudful | 44 | 64 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 72 | 248 |
Powys | 60 | 139 |
Rhondda Cynon Taf | 131 | 327 |
Sir Benfro | 83 | 141 |
Sir Ddinbych | 54 | 101 |
Sir Gaerfyrddin | 95 | 223 |
Sir Fynwy | 53 | 133 |
Sir y Fflint | 102 | 235 |
Tor-faen | 62 | 123 |
Wrecsam | 63 | 133 |
Ynys Môn | 34 | 80 |
Cymru | 1,750 | 3,997 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 51.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 45.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mehefin 2016 | 3,812 |
Mehefin 2017 | 4,691 |
Mehefin 2018 | 4,344 |
Mehefin 2019 | 3,997 |
Mehefin 2020 | 1,750 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £222,791 | -1.1% | 5.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £164,848 | 3.3% | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £148,711 | 1.8% | 2.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £201,156 | 2.5% | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £168,368 | 2.8% | 2.8% |
Morgais | £175,553 | 1.8% | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2020 |
---|---|
Cymru | 17 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317