Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2019
Cyhoeddwyd 19 Chwefror 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2019
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£165,735
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
2.2%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-2.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
121.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2020 am 9.30am ddydd Mercher 25 Mawrth 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019, i lawr o 5.5%, yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu ar yr un gyfradd â chyfradd flynyddol y DU sef 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cwympodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2% rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019, o’i gymharu â chynnydd o 1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cwympodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.7% rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2019, cwympodd nifer y trafodion gan 0.8% yng Nghymru, o 3,911 i 3,880. Lleihaodd nifer y trafodion gan 0.2%, o 85,411 i 85,225, dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Rhagfyr 2019 o’i gymharu â Rhagfyr 2018. Blaenau Gwent a Merthyr Tudful ddangosodd y twf cryfaf, yn cynyddu gan 14.2% i £101,642 ac 13.6% i £120,111.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y cynnydd mwyaf, gan godi 2.7% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019 i £128,335. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai ar wahân, gyda chynnydd o 2.4% i £251,879.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019 (i lawr o 5.5% yn Nhachwedd 2019).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2019 | Rhagfyr 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £151,492 | £147,688 | 2.6% |
Blaenau Gwent | £101,642 | £88,975 | 14.2% |
Bro Morgannwg | £226,299 | £226,955 | -0.3% |
Caerdydd | £213,125 | £207,336 | 2.8% |
Caerffili | £138,638 | £137,402 | 0.9% |
Casnewydd | £183,127 | £181,214 | 1.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £126,458 | £113,511 | 11.4% |
Ceredigion | £183,589 | £187,620 | -2.1% |
Conwy | £170,848 | £165,517 | 3.2% |
Gwynedd | £167,598 | £155,429 | 7.8% |
Merthyr Tudful | £120,111 | £105,696 | 13.6% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £161,648 | £153,220 | 5.5% |
Powys | £188,277 | £188,467 | -0.1% |
Rhondda Cynon Taf | £118,967 | £112,413 | 5.8% |
Sir Benfro | £179,743 | £172,073 | 4.5% |
Sir Ddinbych | £164,062 | £151,212 | 8.5% |
Sir Fynwy | £279,937 | £265,740 | 5.3% |
Sir y Fflint | £174,968 | £169,516 | 3.2% |
Sir Gaerfyrddin | £152,868 | £146,224 | 4.5% |
Tor-faen | £151,436 | £144,581 | 4.7% |
Wrecsam | £157,208 | £160,040 | -1.8% |
Ynys Môn | £177,495 | £178,955 | -0.8% |
Cymru | £165,735 | £162,234 | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Rhagfyr 2019, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £280,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent lle mai £102,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Rhagfyr 2019 | Rhagfyr 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £251,879 | £245,946 | 2.4% |
Tŷ pâr | £160,368 | £156,322 | 2.6% |
Tŷ teras | £128,335 | £125,002 | 2.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £113,391 | £116,278 | -2.5% |
Holl | £165,735 | £162,234 | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Hydref 2019 | Hydref 2018 |
---|---|---|
Abertawe | 263 | 293 |
Blaenau Gwent | 71 | 87 |
Bro Morgannwg | 185 | 230 |
Caerdydd | 418 | 510 |
Caerffili | 211 | 227 |
Casnewydd | 166 | 221 |
Castell-nedd Port Talbot | 153 | 165 |
Ceredigion | 86 | 107 |
Conwy | 166 | 190 |
Gwynedd | 148 | 189 |
Merthyr Tudful | 84 | 57 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 202 | 217 |
Powys | 137 | 162 |
Rhondda Cynon Taf | 297 | 357 |
Sir Benfro | 172 | 231 |
Sir Ddinbych | 126 | 124 |
Sir Gaerfyrddin | 235 | 271 |
Sir Fynwy | 103 | 113 |
Sir y Fflint | 179 | 229 |
Tor-faen | 102 | 148 |
Wrecsam | 136 | 154 |
Ynys Môn | 98 | 104 |
Cymru | 3,880 | 4,387 |
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.8% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 0.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Hydref 2015 | 4,500 |
Hydref 2016 | 3,957 |
Hydref 2017 | 4,471 |
Hydref 2018 | 4,387 |
Hydref 2019 | 3,880 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £220,628 | 0.8% | 2.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £163,147 | 0.9% | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £143,271 | -1.8% | 2.3% |
Cyn berchen-feddiannydd | £191,878 | -2.1% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £161,168 | -1.6% | 1.8% |
Morgais | £168,438 | -2.1% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2019 |
---|---|
Cymru | 49 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317