Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2018
Cyhoeddwyd 18 Ebrill 2018
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2018
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£152,891
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
4.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-0.4%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
112.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2018 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mai 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2018 (heb ei newid er Ionawr 2018).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Chwefror 2018 | Chwefror 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £141,908 | £137,799 | 3% |
Blaenau Gwent | £83,484 | £81,019 | 3% |
Bro Morgannwg | £217,048 | £204,276 | 6.3% |
Caerdydd | £201,561 | £190,186 | 6% |
Caerffili | £125,258 | £119,671 | 4.7% |
Casnewydd | £163,083 | £155,180 | 5.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £112,879 | £107,676 | 4.8% |
Ceredigion | £181,652 | £170,857 | 6.3% |
Conwy | £165,458 | £149,742 | 10.5% |
Gwynedd | £153,368 | £142,061 | 8% |
Merthyr Tudful | £97,162 | £98,625 | -1.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £147,029 | £139,112 | 5.7% |
Powys | £174,997 | £171,127 | 2.3% |
Rhondda Cynon Taf | £102,076 | £99,072 | 3% |
Sir Benfro | £160,953 | £162,330 | -0.8% |
Sir Ddinbych | £151,232 | £143,724 | 5.2% |
Sir Fynwy | £251,391 | £231,217 | 8.7% |
Sir y Fflint | £165,492 | £160,113 | 3.4% |
Sir Gaerfyrddin | £138,803 | £131,269 | 5.7% |
Tor-faen | £138,332 | £127,178 | 8.8% |
Wrecsam | £155,199 | £152,824 | 1.6% |
Ynys Môn | £163,514 | £160,344 | 2% |
Cymru | £152,891 | £145,837 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Chwefror 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £251,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £83,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Chwefror 2018 | Chwefror 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £232,078 | £220,848 | 5.1% |
Tŷ pâr | £146,772 | £139,526 | 5.2% |
Tŷ teras | £117,459 | £112,204 | 4.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £111,880 | £108,273 | 3.3% |
Holl | £152,891 | £145,837 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2017 | Rhagfyr 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 303 | 305 | -0.7% |
Blaenau Gwent | 61 | 85 | -28.2% |
Bro Morgannwg | 153 | 263 | -41.8% |
Caerdydd | 399 | 488 | -18.2% |
Caerffili | 262 | 222 | 18.0% |
Casnewydd | 265 | 303 | -12.5% |
Castell-nedd Port Talbot | 190 | 198 | -4.0% |
Ceredigion | 85 | 105 | -19.0% |
Conwy | 190 | 209 | -9.1% |
Gwynedd | 156 | 164 | -4.9% |
Merthyr Tudful | 84 | 68 | 23.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 170 | 194 | -12.4% |
Powys | 158 | 159 | -0.6% |
Rhondda Cynon Taf | 290 | 363 | -20.1% |
Sir Benfro | 166 | 186 | -10.8% |
Sir Ddinbych | 135 | 143 | -5.6% |
Sir Gaerfyrddin | 251 | 312 | -19.6% |
Sir Fynwy | 130 | 169 | -23.1% |
Sir y Fflint | 162 | 259 | -37.5% |
Tor-faen | 116 | 113 | 2.7% |
Wrecsam | 129 | 145 | -11.0% |
Ynys Môn | 72 | 127 | -43.3% |
Cymru | 3,927 | 4,581 | -14.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
3.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Rhagfyr 2013 | 3,887 |
Rhagfyr 2014 | 3,836 |
Rhagfyr 2015 | 4,129 |
Rhagfyr 2016 | 4,581 |
Rhagfyr 2017 | 3,927 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
4. Statws eiddo
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £207,355 | 3.0% | 8.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £150,326 | 0.2% | 4.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: ers datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £131,805 | -0.3% | 4.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £177,546 | -0.5% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Chwefror 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £149,073 | -0.1% | 4.6% |
Morgais | £155,154 | -0.5% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2017 |
---|---|
Cymru | 50 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068084