Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2017
Cyhoeddwyd 12 September 2017
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£150,846
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
3.1%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-0.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Chwefror 2015 = 100) oedd
110.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2017 (i lawr o 3.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2017 | Gorffennaf 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £144,175 | £135,953 | 6% |
Blaenau Gwent | £81,482 | £79,055 | 3.1% |
Bro Morgannwg | £211,556 | £207,341 | 2.0% |
Caerdydd | £198,899 | £190,689 | 4.3% |
Caerffili | £121,427 | £122,600 | -1.0% |
Casnewydd | £159,210 | £151,525 | 5.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £105,396 | £108,071 | -2.5% |
Ceredigion | £170,951 | £176,776 | -3.3% |
Conwy | £153,862 | £149,243 | 3.1% |
Gwynedd | £146,489 | £143,964 | 1.8% |
Merthyr Tudful | £98,325 | £98,018 | 0.3% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £153,242 | £136,701 | 12.1% |
Powys | £175,275 | £166,024 | 5.6% |
Rhondda Cynon Taf | £105,085 | £102,055 | 3.0% |
Sir Benfro | £166,070 | £154,152 | 7.7% |
Sir Ddinbych | £142,482 | £144,673 | -1.5% |
Sir Fynwy | £222,930 | £222,093 | 0.4% |
Sir y Fflint | £157,935 | £159,298 | -0.9% |
Sir Gaerfyrddin | £131,682 | £133,834 | -1.6% |
Tor-faen | £133,912 | £128,447 | 4.3% |
Wrecsam | £148,727 | £147,530 | 0.8% |
Ynys Môn | £159,007 | £154,847 | 2.7% |
Cymru | £150,846 | £146,353 | 3.1% |
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Gorffennaf 2017 | Gorffennaf 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £224,609 | £218,625 | 2.7% |
Tŷ pâr | £144,585 | £140,396 | 3.0% |
Tŷ teras | £117,863 | £114,543 | 2.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £111,195 | £105,325 | 5.6% |
Holl | £150,846 | £146,353 | 3.1% |
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mai 2017 | Mai 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 224 | 224 | 0.0% |
Blaenau Gwent | 71 | 62 | 14.5% |
Bro Morgannwg | 140 | 195 | -28.2% |
Caerdydd | 364 | 336 | 8.3% |
Caerffili | 209 | 176 | 18.8% |
Casnewydd | 203 | 205 | -1.0% |
Castell-nedd Port Talbot | 153 | 140 | 9.3% |
Ceredigion | 73 | 52 | 40.4% |
Conwy | 176 | 112 | 57.1% |
Gwynedd | 113 | 118 | -4.2% |
Merthyr Tudful | 64 | 53 | 20.8% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 181 | 155 | 16.8% |
Powys | 134 | 100 | 34.0% |
Rhondda Cynon Taf | 269 | 267 | 0.7% |
Sir Benfro | 137 | 110 | 24.5% |
Sir Ddinbych | 104 | 94 | 10.6% |
Sir Gaerfyrddin | 194 | 212 | -8.5% |
Sir Fynwy | 103 | 114 | -9.6% |
Sir y Fflint | 147 | 166 | -11.4% |
Tor-faen | 117 | 69 | 69.6% |
Wrecsam | 129 | 103 | 25.2% |
Ynys Môn | 79 | 61 | 29.5% |
Cymru | 3,406 | 3,125 | 9.0% |
3.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mai 2013 | 3134 |
Mai 2014 | 3985 |
Mai 2015 | 3685 |
Mai 2016 | 3125 |
Mai 2017 | 3406 |
4. Statws adeiladu
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £218,643 | -1.3% | 16.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £147,350 | -0.2% | 2.4% |
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £130,806 | 0.1% | 3.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | £174,074 | -0.7% | 3.0% |
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £146,540 | -0.5% | 2.8% |
Morgais | £153,399 | -0.2% | 3.2% |
7. Nifer yr adfeddiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth: Mai 2017
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu |
---|---|
Cymru | 74 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.