Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2021

Cyhoeddwyd 19 May 2021

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £185,431

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 136.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Mehefin 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.1% rhwng Chwefror a Mawrth 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% rhwng Chwefror a Mawrth 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, gostyngodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru, o 2917 i 2597. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.3%, o 61,815 i 65,727, dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd y 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mawrth 2021 o’i gymharu â Mawrth 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yn Sir Gaerfyrddin, lle cododd gan 22.7% i £183,000 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 4.5% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £188,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 12.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i £283,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 2.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i £119,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mawrth 2021 Mawrth 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £162,881 £154,152 5.7%
Blaenau Gwent £97,763 £91,795 6.5%
Bro Morgannwg £251,829 £234,975 7.2%
Caerdydd £227,435 £209,212 8.7%
Caerffili £152,443 £137,620 10.8%
Casnewydd £205,556 £189,870 8.3%
Castell-nedd Port Talbot £134,858 £123,801 8.9%
Ceredigion £212,987 £185,484 14.8%
Conwy £185,708 £169,008 9.9%
Gwynedd £176,185 £158,190 11.4%
Merthyr Tudful £125,406 £109,824 14.2%
Pen-y-bont ar Ogwr £170,214 £156,282 8.9%
Powys £211,590 £188,728 12.1%
Rhondda Cynon Taf £131,202 £115,363 13.7%
Sir Benfro £188,277 £180,105 4.5%
Sir Ddinbych £177,226 £157,549 12.5%
Sir Fynwy £301,298 £278,702 8.1%
Sir y Fflint £192,929 £175,038 10.2%
Sir Gaerfyrddin £183,129 £149,193 22.7%
Tor-faen £166,703 £150,523 10.7%
Wrecsam £174,572 £158,726 10%
Ynys Môn £211,450 £182,580 15.8%
Cymru £185,431 £167,040 11%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mawrth 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £301,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £98,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mawrth 2021 Mawrth 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £283,155 £251,910 12.4%
Tŷ pâr £178,631 £161,715 10.5%
Tŷ teras £145,457 £129,574 12.3%
Fflat neu fflat deulawr £119,432 £116,600 2.4%
Holl £185,431 £167,040 11.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ionawr 2021 Ionawr 2020
Abertawe 204 247
Blaenau Gwent 63 72
Bro Morgannwg 118 178
Caerdydd 304 352
Caerffili 110 180
Casnewydd 116 177
Castell-nedd Port Talbot 136 122
Ceredigion 77 76
Conwy 145 157
Gwynedd 106 128
Merthyr Tudful 34 47
Pen-y-bont ar Ogwr 120 172
Powys 118 139
Rhondda Cynon Taf 188 214
Sir Benfro 126 134
Sir Ddinbych 70 82
Sir Gaerfyrddin 155 159
Sir Fynwy 65 103
Sir y Fflint 117 160
Tor-faen 63 82
Wrecsam 109 119
Ynys Môn 53 71
Cymru 2,597 3,171

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 0.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ionawr 2017 3,056
Ionawr 2018 3,170
Ionawr 2019 3,070
Ionawr 2020 3,171
Ionawr 2021 2,597

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £235,648 0.6% 4.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £178,954 -0.3% 12.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £159,375 2.8% 10.4%
Cyn berchen-feddiannydd £216,107 3.4% 11.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £180,037 3.4% 10.8%
Morgais £188,620 3.0% 11.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2021
Cymru 14

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317