Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2017

Cyhoeddwyd 18 Gorffennaf 2017

Yn berthnasol i Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2017

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£149,817

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

0.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Chwefror 2015 = 100) oedd

110.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

welsh Average price by local authority for Wales

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog o 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2017 (i lawr o 4.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.

Awdurdodau lleol Mai 2017 Mai 2016 Gwahaniaeth
Abertawe £140,537 £134,537 4.5%
Blaenau Gwent £79,230 £80,601 -1.7%
Bro Morgannwg £209,272 £196,664 6.4%
Caerdydd £197,338 £186,515 5.8%
Caerffili £120,649 £117,467 2.7%
Casnewydd £157,196 £147,413 6.6%
Castell-nedd Port Talbot £106,485 £104,787 1.6%
Ceredigion £175,809 £165,010 6.5%
Conwy £152,676 £147,792 3.3%
Gwynedd £143,986 £144,870 -0.6%
Merthyr Tudful £97,914 £91,906 6.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £146,597 £133,872 9.5%
Powys £172,393 £165,412 4.2%
Rhondda Cynon Taf £104,407 £100,778 3.6%
Sir Benfro £164,203 £157,577 4.2%
Sir Ddinbych £142,400 £140,242 1.5%
Sir Fynwy £229,953 £218,290 5.3%
Sir y Fflint £157,490 £155,006 1.6%
Sir Gaerfyrddin £134,997 £125,903 7.2%
Tor-faen £124,737 £128,237 -2.7%
Wrecsam £150,610 £146,730 2.6%
Ynys Môn £161,262 £155,243 3.9%
Cymru £149,817 £144,296 3.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

welsh Annual price change for Wales over the past 5 years

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mai 2017 Mai 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £221,822 £215,069 3.1%
Tŷ pâr £144,909 £138,484 4.6%
Tŷ teras £116,128 £112,917 2.8%
Fflat neu fflat deulawr £112,812 £104,659 7.8%
Holl £149,817 £144,296 3.8%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol: Mawrth 2017

Awdurdodau lleol Nifer y gwerthiannau
Abertawe 263
Blaenau Gwent 54
Bro Morgannwg 137
Caerdydd 404
Caerffili 179
Casnewydd 219
Castell-nedd Port Talbot 163
Ceredigion 54
Conwy 174
Gwynedd 134
Merthyr Tudful 57
Pen-y-bont ar Ogwr 176
Powys 145
Rhondda Cynon Taf 267
Sir Benfro 148
Sir Ddinbych 102
Sir Gaerfyrddin 209
Sir Fynwy 106
Sir y Fflint 146
Tor-faen 99
Wrecsam 123
Ynys Môn 79
Cymru 3,451

3.2 Nifer y gwerthiannau: Mawrth 2017

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mawrth 2013 2677
Mawrth 2014 3344
Mawrth 2015 3359
Mawrth 2016 5354
Mawrth 2017 3451

4. Statws adeiladu

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £209,992 1.1% 10.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £146,556 0.5% 3.5%

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £130,125 1.2% 3.9%
Cyn berchen-feddiannydd £172,585 -0.1% 3.7%

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £145,421 0.2% 3.4%
Morgais £152,422 0.7% 4.1%

7. Nifer yr adfeddiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth: Mawrth 2017

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Cymru 76

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084.