Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2019

Cyhoeddwyd 15 January 2020

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£172,574

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

7.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.5%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

126.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2019 am 9.30am ddydd Mercher 19 Chwefror 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 7.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019, i fyny o 3.6%, yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.2% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.5% rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2018 a Thachwedd 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.1% rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019.

Profodd Cymru’r twf blynyddol uchaf erioed yn Nhachwedd 2019. Ysgogwyd hyn gan symudiad tuag at drafodion ar eiddo o werth uwch rhwng Hydref a Thachwedd mewn ardaloedd sydd â nifer uwch o drafodion yn nodweddiadol, megis Caerdydd a Chasnewydd, ynghyd â chwymp mewn prisiau yn ystod yr un cyfnod yn 2018.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.3% yng Nghymru, o 3,494 i 3,539. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 3.2% o 77,379 i 79,830 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd yr holl ardaloedd awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Nhachwedd 2019 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y twf cryfaf yn Sir Benfro a Merthyr Tudful, gan gynyddu 10.4% i £185,000 ac 8.5% i £114,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.

O’r holl fathau o eiddo, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai pâr, gan godi 8.4% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019 i £168,000. O’r holl fathau o eiddo, gwelwyd y cynnydd lleiaf mewn tai ar wahân, gyda chynnydd o 7.3% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019 i £260,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 7.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019 (i fyny o 3.6% yn Hydref 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Tachwedd 2019 Tachwedd 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £156,657 £147,299 6.4%
Blaenau Gwent £94,069 £90,561 3.9%
Bro Morgannwg £231,714 £224,052 3.4%
Caerdydd £217,054 £207,271 4.7%
Caerffili £144,098 £137,399 4.9%
Casnewydd £193,036 £181,900 6.1%
Castell-nedd Port Talbot £124,671 £117,382 6.2%
Ceredigion £190,773 £184,864 3.2%
Conwy £167,380 £160,136 4.5%
Gwynedd £166,134 £156,897 5.9%
Merthyr Tudful £113,804 £104,932 8.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £158,405 £151,658 4.4%
Powys £197,590 £187,952 5.1%
Rhondda Cynon Taf £119,244 £111,961 6.5%
Sir Benfro £185,319 £167,896 10.4%
Sir Ddinbych £159,205 £151,199 5.3%
Sir Fynwy £269,566 £261,608 3%
Sir y Fflint £169,553 £168,945 0.4%
Sir Gaerfyrddin £151,074 £146,274 3.3%
Tor-faen £148,040 £147,689 0.2%
Wrecsam £161,123 £156,490 3%
Ynys Môn £185,445 £173,288 7%
Cymru £172,574 £160,158 7.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh).

Yn Nhachwedd 2019 yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £270,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent lle mai £94,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Tachwedd 2019 Tachwedd 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £259,606 £241,953 7.3%
Tŷ pâr £167,517 £154,517 8.4%
Tŷ teras £133,595 £124,216 7.6%
Fflat neu fflat deulawr £121,475 £112,805 7.7%
Holl £172,574 £160,158 7.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Medi 2019 Medi 2018
Abertawe 261 270
Blaenau Gwent 77 73
Bro Morgannwg 149 191
Caerdydd 391 501
Caerffili 193 182
Casnewydd 169 208
Castell-nedd Port Talbot 149 178
Ceredigion 80 96
Conwy 176 182
Gwynedd 140 171
Merthyr Tudful 63 54
Pen-y-bont ar Ogwr 154 204
Powys 133 154
Rhondda Cynon Taf 252 279
Sir Benfro 152 182
Sir Ddinbych 99 136
Sir Gaerfyrddin 203 263
Sir Fynwy 91 114
Sir y Fflint 179 186
Tor-faen 108 117
Wrecsam 120 128
Ynys Môn 85 89
Cymru 3,539 3,959

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 2.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Medi 2015 3,801
Medi 2016 4,054
Medi 2017 4,424
Medi 2018 3,959
Medi 2019 3,539

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £220,532 -0.6% 4.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £161,851 -2.1% 2.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £149,063 3.6% 7.8%
Cyn berchen-feddiannydd £199,974 3.4% 7.7%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £167,003 2.9% 7.3%
Morgais £175,842 3.8% 8.0%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2019
Cymru 45

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317