Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2021

Cyhoeddwyd 17 November 2021

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £196,216

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 15.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.5%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 144.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2021 am 9.30am ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 15.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021, i fyny o 10.7% yn Awst 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 11.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.5% rhwng Awst a Medi 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.2% rhwng Awst a Medi 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 51.6% yng Nghymru, o 2081 i 1008. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 48.0%, o 54650 i 28400 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, gwelodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Medi 2021 o’i gymharu â Medi 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 20.6% i £283,709 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021. Mewn cyferbyniad, gwelwyd y newid blynyddol lleiaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chynnydd o 3.1% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £172,583.

O’r holl fathau o eiddo, tai sengl welodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 17.0% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021 i £301,194. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 11.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021 i £129,167.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 15.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021, i fyny o 10.7% yn Awst 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Medi 2021 Medi 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £168,257 £156,149 7.8%
Blaenau Gwent £115,277 £96,966 18.9%
Bro Morgannwg £283,709 £235,322 20.6%
Caerdydd £244,895 £216,182 13.3%
Caerffili £159,103 £145,687 9.2%
Casnewydd £202,483 £191,418 5.8%
Castell-nedd Port Talbot £139,282 £125,801 10.7%
Ceredigion £218,450 £197,971 10.3%
Conwy £196,174 £175,371 11.9%
Gwynedd £189,685 £165,878 14.4%
Merthyr Tudful £122,777 £110,161 11.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £172,583 £167,320 3.1%
Powys £220,793 £193,645 14%
Rhondda Cynon Taf £135,370 £119,124 13.6%
Sir Benfro £210,410 £189,452 11.1%
Sir Ddinbych £181,305 £158,666 14.3%
Sir Fynwy £315,256 £285,587 10.4%
Sir y Fflint £188,925 £173,684 8.8%
Sir Gaerfyrddin £186,852 £155,678 20%
Tor-faen £178,193 £158,059 12.7%
Wrecsam £189,888 £160,147 18.6%
Ynys Môn £208,306 £192,273 8.3%
Cymru £196,216 £170,030 15.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Medi 2021, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £315,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £115,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Medi 2021 Medi 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £301,194 £257,516 17.0%
Tŷ pâr £187,935 £164,718 14.1%
Tŷ teras £153,280 £132,127 16.0%
Fflat neu fflat deulawr £129,167 £115,579 11.8%
Holl £196,216 £170,030 15.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2020
Abertawe 76 170
Blaenau Gwent 19 35
Bro Morgannwg 28 124
Caerdydd 79 247
Caerffili 50 131
Casnewydd 53 127
Castell-nedd Port Talbot 61 90
Ceredigion 34 67
Conwy 42 135
Gwynedd 58 105
Merthyr Tudful 15 45
Pen-y-bont ar Ogwr 54 97
Powys 41 94
Rhondda Cynon Taf 79 162
Sir Benfro 39 117
Sir Ddinbych 30 97
Sir Gaerfyrddin 61 147
Sir Fynwy 29 59
Sir y Fflint 48 137
Tor-faen 28 69
Wrecsam 45 87
Ynys Môn 39 49
Cymru 1,008 2,391

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 51.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 50.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Gorffennaf 2017 4,143
Gorffennaf 2018 4,227
Gorffennaf 2019 4,306
Gorffennaf 2020 2,391
Gorffennaf 2021 1,008

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £269,287 3.5% 19.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £180,109 -6.1% 9.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £168,657 2.2% 15.0%
Cyn berchen-feddiannydd £228,652 2.7% 15.8%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Medi 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £190,831 3.3% 15.6%
Morgais £199,445 2.1% 15.3%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2021
Cymru 6

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317