Canllawiau

Cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio GOV.UK One Login

Cael gwybod sut y bydd GOV.UK One Login yn berthnasol i chi, a phryd y gallwch ddisgwyl dechrau ei ddefnyddio.

Beth yw GOV.UK One Login

Ffordd newydd o fewngofnodi i wasanaethau’r Llywodraeth (yn Saesneg) yw GOV.UK One Login. Mae’n cynnig ffordd syml i chi fewngofnodi a phrofi pwy ydych gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair. 

Yn y pen draw, bydd GOV.UK One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi, gan gynnwys Porth y Llywodraeth — sef y ffordd y mae sawl cwsmer a busnes yn mewngofnodi ar hyn o bryd.  

Yr hyn y mae’n ei olygu i chi  

Gofynnir i chi greu cyfrif GOV.UK One Login yn awtomatig. Ni fydd hyn yn digwydd i bawb ar yr un pryd, a does dim angen i chi wneud unrhyw beth oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny. 

Bydd y cwsmeriaid hynny sydd heb fanylion mewngofnodi presennol ar gyfer CThEF ar-lein ymhlith y cyntaf i greu cyfrif GOV.UK One Login. 

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF, hyd nes y byddwn yn gofyn i chi. 

Pan ofynnir i chi greu cyfrif GOV.UK One Login, mae’n bosibl y bydd angen i chi fodloni proses newydd o awdurdodi a phrofi pwy ydych (yn Saesneg), felly sicrhewch fod gennych ddogfennau adnabod wrth law, megis pasbort neu drwydded yrru.  

Os ydych yn asiant treth neu’n sefydliad â chyfrif treth busnes, byddwch yn parhau i fewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth hyd nes y gofynnir i chi greu cyfrif GOV.UK One Login.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 March 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Sign up for emails or print this page