Canllawiau

Ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Sut i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid i’ch cyfrif gwasanaethau asiant ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a gwirio pa awdurdodiadau sydd eisoes wedi’u hychwanegu.

Cyn i chi gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Os nad ydych eisoes wedi’ch awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad, dylech ddilyn y camau yn eich cyfrif i ofyn i’ch cleient eich awdurdodi.

Os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad, dylech wneud y canlynol:

  1. Gwirio pa awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad sydd eisoes wedi’u hychwanegu i’ch cyfrif gwasanaethau asiant o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

  2. Ychwanegu eich awdurdodiadau i’ch cyfrif gwasanaethau asiant o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, os oes angen i chi wneud hynny.

Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych eisoes wedi’ch awdurdodiad ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad oes gennych gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi greu un.

Gwirio’ch awdurdodiadau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Cyn ychwanegu eich awdurdodiadau, gallwch wirio pa awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad sydd eisoes wedi’u hychwanegu i’ch cyfrif gwasanaethau asiant o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dewiswch yr opsiwn i ‘Ychwanegu awdurdodiadau presennol ar gyfer Hunanasesiad at y cyfrif hwn’.

Os ydych eisoes wedi ychwanegu awdurdodiadau, byddwch yn gweld rhestr o’r Dynodyddion Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd wedi’u hychwanegu. Ni fyddwch yn gweld rhestr o gleientiaid unigol.

Os yw’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd wedi’i gysylltu â’ch cleient:

Ychwanegu eich awdurdodiadau i’ch cyfrif gwasanaethau asiant

Bydd angen i chi ddilyn y camau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Hunanasesiad o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Bydd ychwanegu awdurdodiadau yn golygu:

  • bod gennych fynediad at eich awdurdodiadau gan gleientiaid yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF o hyd — byddwch yn dal i allu defnyddio eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer Hunanasesiad ac ar gyfer cleientiaid nad oes angen iddynt ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • bod yn rhaid i’ch cleient fynd ati i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — bydd angen i chi ddilyn y camau yn y gwasanaeth ar gyfer cofrestru er mwyn gwneud hynny

Pan fyddwch yn ychwanegu awdurdodiad, bydd eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn cael ei gysylltu â’ch cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hyn yn golygu:

  • os byddwch yn ychwanegu neu’n diweddaru cleient ar gyfer Hunanasesiad yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, dylai’r newid hwn gael ei adlewyrchu yn eich cyfrif gwasanaethau asiant
  • os nad ydych yn gweithio gyda chleient mwyach, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF a’ch cyfrif gwasanaethau asiant i ddileu ei awdurdodiad

Os nad ydych wedi eich awdurdodi gan eich cleient, ni all y broses o gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gael ei chwblhau.

Ar ôl i’ch cleient gael ei awdurdodi yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Gallwch gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025

Argraffu'r dudalen hon