Datganiadau Warysu Alcohol a Thybaco
Defnyddiwch Ddatganiadau Warysu Alcohol a Thybaco i anfon eich datganiadau warysu ecséis a’ch gwarantau talu at CThEF.
O 1 Chwefror 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi fod â chymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) i gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd yn y DU.
O 1 Mawrth 2025, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiadau a thaliadau Toll Alcohol gan ddefnyddio’r gwasanaeth Rheoli’ch Toll Alcohol.
O dan delerau APPA, gallwch gael eich awdurdodi i gynhyrchu, dal a symud cynhyrchion alcoholaidd sydd o dan ohiriad tollau. Ni fydd disgwyl i chi weithredu warws ecséis ynghyd â’ch APPA mwyach, ond gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno.
Os oes gennych warws ecséis ynghyd â’ch APPA o hyd, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer Datganiadau Warysu Alcohol a Thybaco (ATWD) neu ffurflenni W5 a W5D i gyflwyno’ch datganiad. Bydd hefyd angen i chi gyflwyno datganiad ‘dim’ drwy’r gwasanaeth Rheoli’ch Toll Alcohol. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau ar eich cyfrif.
Ar gyfer datganiadau hyd at a chan gynnwys mis Chwefror 2025, dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ATWD neu ffurflenni W5 a W5D i ddatgan a thalu’r doll. Ni fyddwch yn gallu rhoi gwybod am y Doll Alcohol hon na rhoi cyfrif amdani gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer rheoli eich Toll Alcohol.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).
Mewngofnodwch a chyflwynwch eich datganiad neu warant os ydych eisoes wedi cofrestru.
Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw broblemau â’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg) ar hyn o bryd, neu adegau pa na fydd y gwasanaeth ar gael.
Trosolwg
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Datganiadau Warysu Alcohol a Thybaco (ATWD) ar gael i geidwaid warysau ecséis sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu safleoedd sydd wedi’u cymeradwyo fel warysau ecséis (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno’r ffurflenni canlynol ar-lein:
-
W1 ar gyfer datganiadau warysau ecséis
-
W5 ‘Nodyn talu ar gyfer nwyddau alcohol’
-
W5D ‘Nodynnau gohirio ar gyfer nwyddau alcohol’
-
W6 ar gyfer nodynnau talu ar gyfer nwyddau tybaco
-
W6D ar gyfer nodynnau gohirio ar gyfer nwyddau tybcao
Manteision
Gall ATWD eich helpu chi i wneud y canlynol:
-
arbed amser – gyda meysydd wedi’u llenwi eisoes a chyfrifiadau wedi’u gwneud i chi a thrwy ddarparu awdurdodiadau/gwrthodiadau ar-lein fel nad oes angen i chi aros 2 ddiwrnod ar gyfer copi papur
-
cynnig datganiadau mwy cywir — gyda dilysu awtomatig cyn cyflwyno
-
cadw cofnodion — drwy gadw datganiadau a gwarantau a gyflwynwyd yn flaenorol
Byddwch yn cael cydnabyddiaeth ar y sgrin ar unwaith yn cadarnhau bod CThEF wedi cael eich datganiad/gwarant.
Os oes gennych feddalwedd XML, gall ATWD hefyd weithio gyda honno. Mae hyn yn helpu i leihau’r tasgau gweinyddol yn bellach heb fod angen braidd dim ymyriad â llaw.
Ymrestru ac actifadu
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn mewngofnodi. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru. Bydd angen i chi gofrestru fel sefydliad ac yna dewis y gwasanaeth ATWD a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau’r broses gofrestru.
Bydd angen i chi nodi Dynodydd (ID) eich warws ecséis (i’w weld ar eich llythyr yn cymeradwyo’r warws) a chod post y warws. Os ydych yn gweithredu mwy nag un warws ecséis, bydd rhaid i chi ymrestru pob un warws ar gyfer ATWD ar wahân.
Os ydych wedi nodi’r manylion yn gywir, dylech gael Cod Cychwyn gan CThEF ofewn 7 diwrnod. Bydd angen i chi ddefnyddio hwn i actifadu’r gwasanaeth.
Os na fyddwch yn actifadu’ch cyfrif o fewn 28 diwrnod, bydd angen i chi ymrestru unwaith eto.
Os nad ydych wedi cael eich cod o fewn pythefnos, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein ATWD (yn agor tudalen Saesneg).