Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu
Sut i wneud cais i lys teulu am orchymyn sy’n eich diogelu chi neu rywun arall rhag cam-drin domestig, neu’r risg o gam-drin domestig.
Yn berthnasol i Loegr
Gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig
Gall gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig (DAPO):
- atal rhywun rhag dod i’ch cartref neu’n agos ato
- penderfynu pwy all aros yn eich cartref neu ddychwelyd iddo
- gorchymyn bod yr unigolyn yn mynychu rhaglen newid ymddygiad
- gorchymyn bod yr unigolyn yn gwisgo tag electronig i wirio eu bod yn cadw at amodau’r gorchymyn
Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais.
Os oes gennych achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, rhaid i chi wneud cais i lys sirol yn lle hynny.
Darllen y cyfarwyddyd ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys sirol
Pwy all wneud cais
Gallwch ond wneud cais am DAPO os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn:
- Manceinion Fwyaf
- bwrdeistrefi Croydon, Bromley neu Sutton yn Llundain
- Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
- Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)
Os nad yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn un o’r ardaloedd hyn, gallwch wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn lle hynny.
Ble i wneud cais
Dim ond yn y llysoedd teulu canlynol y gallwch wneud cais:
Os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn Sutton, gallwch wneud cais naill ai yn Croydon neu Bromley.
Efallai y bydd rhaid i chi deithio i un o’r ardaloedd hyn i fynychu gwrandawiad, hyd yn oed os nad ydych yn byw yno.
Os na allwch deithio i un o’r ardaloedd hyn, gallwch wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn eich llys teulu lleol yn lle hynny.
Sut i wneud cais
Bydd arnoch angen llenwi:
Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen DA2.
Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol
Os nad ydych am i’ch manylion cyswllt chi neu fanylion cyswllt eich plentyn gael eu rhannu â’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, ni ddylech eu cynnwys yn eich cais.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen C8 a’i hanfon i’r llys gyda’ch cais.
Cwblhau datganiad tyst ategol
Gallwch ddefnyddio’r templed ar gyfer datganiad tyst ategol sydd yn ffurflen DA1.
Mae’r templed yn eich helpu i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar y llys.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r templed os byddai’n well gennych ysgrifennu eich datganiad eich hun. Fodd bynnag, rhaid i chi ddarllen y canllawiau yn y templed.
Os byddwch yn dewis ysgrifennu eich datganiad tyst ategol eich hun, rhaid iddo gynnwys y datganiad gwirionedd a ganlyn, eich llofnod a’r dyddiad:
Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir, neu sy’n achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir. Rwy’n credu bod y ffeithiau a nodir yn y ffurflen hon, ac ar unrhyw ddalennau parhau, yn wir.
Cyflwyno’r cais neu’r gorchymyn
Ar ôl i’r llys dderbyn eich cais, rhaid rhoi copi i’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (oni bai bod y llys wedi cytuno i wrando ar eich achos heb roi gwybod iddynt). Gelwir hyn yn ‘cyflwyno cais’.
Os bydd y llys yn caniatáu gorchymyn, rhaid cyflwyno’r gorchymyn i’r unigolyn rydych angen cael eich diogelu rhagddynt.
Ni ddylech gyflwyno’r cais neu’r gorchymyn eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen D89 i ofyn i swyddog llys gyflwyno’r cais neu’r gorchymyn. Rhaid i chi anfon y ffurflen hon i’r llys gyda’ch cais.
Unwaith y bydd y cais neu’r gorchymyn wedi’i gyflwyno, rhaid i chi lenwi ffurflen DA415 i ddweud wrth y llys:
- i bwy y cyflwynwyd y cais gorchymyn
- yr hyn y cyflwynwyd iddynt
Amrywio neu ddiddymu gorchymyn
Dim ond os yw dal mewn grym y gallwch wneud cais i amrywio neu ddiddymu DAPO.
Rhaid i chi lenwi ffurflen DA3 a’i hanfon i’r llys teulu a wnaeth y gorchymyn.
Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais.
Ble i anfon y ffurflenni
Anfon drwy e-bost
Gallwch anfon eich ffurflenni wedi’u llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i’r llys trwy e-bost.
Rhaid i chi atodi un copi o bob ffurflen y byddwch yn ei hanfon.
Chwilio am fanylion cyswllt y llys
Anfon drwy’r post neu ddanfon yn bersonol
Gallwch anfon eich ffurflenni wedi’u llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i’r llys drwy’r post neu eu danfon yn bersonol.
Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon un copi o bob dogfen rydych yn ei hanfon.
Os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon 3 chopi o bob dogfen rydych yn ei hanfon. Os ydych yn gofyn i’r llys orchymyn rhywbeth yn ymwneud ag eiddo, yna rhaid i chi bostio neu ddanfon 4 copi. Gallwch ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol wneud copïau.
Chwilio am fanylion cyswllt y llys
Cael cymorth
Mae Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr cyfreithiol i wneud y canlynol:
- trafod eich opsiynau gyda chi
- eich helpu gyda’ch cais
Rhagor o wybodaeth am sut y gall Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol eich helpu
Rhestr o holl ffurflenni DAPO y llys teulu
- Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA1
- Gofyn am ganiatâd i wneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig ar ran rhywun arall: Ffurflen DA2
- Gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA3
- Tystysgrif cyflwyno ar gyfer gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA415