Canllawiau

Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF i gynhyrchu cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill yn y DU.

Dim ond er eich gwybodaeth y mae’r arweiniad hwn. Mae wedi’i gyhoeddi’n gynnar. Bydd yn berthnasol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.

Tan hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad presennol ar gynhyrchu alcohol, sydd wedi’i amlinellu yn hysbysiadau ecséis 39, 162, 163 a 226 (yn agor tudalen Saesneg)

Darllenwch ragor am y newidiadau sydd i ddod i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn i chi ddechrau

Os ydych am gynhyrchu cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, a chynhyrchion eplesedig eraill yn y DU, bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch. Ni allwch ddechrau cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd hebddi.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais i gael cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA).

Dylech wneud cais o leiaf 45 diwrnod gwaith cyn eich bod yn bwriadu dechrau cynhyrchu. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser na hyn i ni brosesu eich cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n fwy cymhleth

  • mae angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth oddi wrthoch

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn gwneud cais, mae angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt

  • manylion unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r busnes, neu a fydd yn gysylltiedig

  • cyfeiriadau eich safleoedd, a chyfeiriad gohebu, os yw’n wahanol

  • eich statws busnes presennol — er enghraifft, a ydych yn gweithredu fel unig fasnachwr, mewn partneriaeth neu fel cwmni cyfyngedig

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

  • beth yw categorïau y cynhyrchion alcoholaidd y byddwch yn eu cynhyrchu ar y safle

  • y dyddiad y byddwch yn dechrau cynhyrchu

  • beth yw categorïau unrhyw gynhyrchion alcoholaidd yr ydych yn cynllunio mewnforio neu allforio

  • manylion unrhyw gynhyrchion alcoholaidd yr ydych yn eu hanfon i warysau ecséis neu fusnesau cymeradwy eraill, neu’n eu cael oddi wrthynt

Bydd angen i chi rhoi amcangyfrif i ni o faint o alcohol y byddwch ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn bresennol.

Bydd hefyd angen i chi roi cynllun o’ch safle i ni. Mae’n rhaid i hwn ddangos lleoliad a disgrifiad o’r holl gyfarpar y byddwch yn eu defnyddio i gynhyrchu ac i gadw cynhyrchion alcoholaidd. Mae’n rhaid i’r cynllun fod:

  • o faint A4 neu lai

  • mewn du a gwyn

  • â mannau y gohiriwyd tollau arnynt wedi’u harlliwio

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn gwirio’ch cais ac yn cynnal gwiriadau cefndir. Gallai hyn gynnwys:

  • gwiriadau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yr ydych wedi’u darparu yn gyflawn ac yn gywir

  • gwiriadau i wneud yn siŵr eich bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau treth

  • gwiriadau gydag adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth

  • gwiriadau gydag asiantaethau gwirio credyd

  • gwiriad cofnodion troseddol

  • gwiriad â Thŷ’r Cwmnïau

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ymweld â’ch safle i edrych ar eich gweithgareddau masnachu. Yn ystod yr ymweliad byddwn yn gofyn am fanylion ynghylch y canlynol:

  • eich cyflenwyr

  • eich cwsmeriaid

  • eich cynllun busnes

  • cyfrifyddu a systemau rheoli stoc

  • eich safle

  • eich hyfywedd ariannol

Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais

Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwn yn rhoi eich ID cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) i chi. Mae hwn yn 15 digid. Gallwch ddefnyddio’ch ID APPA er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os ydych am wneud newidiadau i’ch cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA). Er enghraifft, os ydych yn bwriadu:

  • cynhyrchu categori newydd o gynhyrchion alcoholaidd

  • defnyddio safle newydd i gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd

  • dod â chynhyrchu i ben

Mae’n rhaid i chi ddilyn yr amodau sydd wedi’u nodi yn y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg). Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn newid amodau’ch cymeradwyaeth, neu ei dirymu, ar unrhyw adeg.

Os ydym yn newid neu’n dirymu’ch cymeradwyaeth, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i ni adolygu’n penderfyniad

  • apelio ar dribiwnlys annibynnol

Os byddwn yn gwrthod eich cais

Os byddwn yn canfod bod yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi yn anwir neu’n anghyflawn, gallwn wrthod eich cais. Os byddwch wedi ein camarwain yn fwriadol, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Os byddwn yn gwrthod eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam.

Os byddwn yn gwrthod eich cais, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i ni adolygu’n penderfyniad

  • apelio ar dribiwnlys annibynnol

Gwneud cais ar-lein

I gael gwybodaeth fanwl am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024

Print this page