Gwneud gais i'ch cais am PIP gael ei ystyried os na chynyddwyd eich dyfarniad symudedd oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Sut i ofyn i'ch cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) gael ei ystyried eto os dywedwyd wrthych na allai'ch dyfarniad symudedd gynyddu oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Mae’r canllaw hwn ond ar gyfer ceisiadau am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) a adolygwyd rhwng 8 Ebrill 2013 a 20 Tachwedd 2020.
Os defnyddiodd DWP adroddiad gweithiwr iechyd proffesiynol wrth adolygu eich cais, ac nad oeddech wedi rhoi gwybod am newid yn eich anghenion symudedd, efallai y bydd gennych hawl i gynnydd yn eich dyfarniad symudedd. Mae hyn oherwydd na ddylem fod wedi dweud wrthych na ellid ei gynyddu oherwydd eich bod wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallech fod wedi cael mwy o arian.
Cymhwyster
Efallai y bydd gennych hawl i gael dyfarniad uwch am ran symudedd eich PIP, hyd yn oed os ydych wedi rhoi’r gorau i gael PIP, os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- cafodd eich cais PIP ei adolygu rhwng 8 Ebrill 2013 a 29 Tachwedd 2020
- roeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- roeddech yn derbyn y gyfradd safonol o’r dyfarniad symudedd
- ni wnaethoch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau a effeithiodd ar eich anghenion symudedd
- cawsoch asesiad gan weithiwr iechyd proffesiynol
- rydych yn parhau i dderbyn y gyfradd safonol o’r dyfarniad symudedd
- dywedodd eich llythyr penderfyniad wrthych na allem gynyddu eich dyfarniad symudedd oherwydd eich bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn cael PIP nawr, ni fyddwn yn lleihau eich dyfarniad oherwydd y newid hwn.
Ni allwn edrych eto ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan dribiwnlys.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â PIP a dywedwch eich bod yn holi am ‘adolygiad ymarfer gweinyddol Rheoliad 27’.
Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol. (Gallwch ddod o hyd i hwn ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau.)
PIP
Ffôn: 0800 121 6579
Ffôn testun: 0800 121 4493
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth ‘video relay os ydych chi ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm Darganfod am gostau galwadau
Neu ysgrifennwch at:
Freepost RUAU-JZTA-KHJC PIP (AE)
Mail Handling Site A
WOLVERHAMPTON
WV98 2EU
Dylech ddyfynnu ‘adolygiad ymarfer gweinyddol Rheoliad 27’ a rhaid i chi gynnwys:
- eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob tudalen rydych yn ein hanfon atom
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhif ffôn cyswllt
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn dweud wrthych os oes angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi’ch cais.
Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, byddwn yn gwirio i weld a ddylech fod wedi cael mwy o arian. Os ddylem fod wedi talu mwy i chi, byddwn yn talu hyn i chi.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 May 2024 + show all updates
-
Eligibility section updated at bullet 5 to make it clear that the criteria is that the health professional assessment must have recommended the enhanced rate of the mobility award.
-
Added translation