Canllawiau

Gwneud cais i ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am gyfrif cyflwynydd i ffeilio cyfrifon cwmni a dogfennau gyda Thŷ'r Cwmnïau yn defnyddio meddalwedd.

Gallwch ddefnyddio cyfrif cyflwynydd i ffeilio cyfrifon a dogfennau cwmni heb ffi ffeilio yn unig.

Bydd angen i chi:

  • fewngofnodi neu greu cyfrif
  • cofnodi enw a chyfeiriad gohebiaeth ar gyfer y cyfrif
  • cofnodi enw, neu rif cwmni y busnes rydych chi’n gweithio iddo

Mae’n cymryd tua 5 munud i wneud cais.

Mae’r gwasanaeth hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Darllenwch gyngor gan AbilityNet ar sut i addasu’ch dyfais i ddiwallu eich anghenion. Er enghraifft, newid y cefndir, lliw neu faint y testun.

Beth i wneud os ydych wedi colli manylion eich cyfrif cyflwynydd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno cais. Byddwn yn anfon manylion cyfrif newydd atoch.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfrif.

Ffeilio dogfennau gyda ffi neu dogfennau arwystl (morgais)

Os oes angen i chi ffeilio dogfennau gyda ffi gan ddefnyddio meddalwedd, rhaid i chi wneud cais am gyfrif credyd Tŷ’r Cwmnïau.

Os oes angen i chi ffeilio dogfennau arwystl (morgais) ar gyfer cwmnïau eraill, rhaid i chi gofrestru fel benthyciwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 June 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 November 2024 + show all updates
  1. Service is now available in Welsh.

  2. New content added to the service. Users need to give the name of the business or the company number if registered with Companies House.

  3. First published.

Sign up for emails or print this page