Canllawiau

Gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Defnyddiwch ffurflen VAT600FRS os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW ac am ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW.

Pwy ddylai wneud cais

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TAW a bod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch fynd ati i gofrestru ar gyfer TAW a gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf ar yr un pryd. Nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon os gwnaethoch wneud cais i ymuno â’r cynllun pan wnaethoch gofrestru ar gyfer TAW.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich enw busnes — dyma enw’ch busnes, a dylai fod ar eich Tystysgrif Cofrestru TAW

  • cyfeiriad eich busnes — dyma’ch prif leoliad busnes

  • eich rhif ffôn — byddwn ond yn ei ddefnyddio os bydd angen i ni gysylltu â chi ynghylch eich cais

  • eich rhif cofrestru TAW — os nad ydych wedi cael y rhif hwn, nodwch gyfeirnod eich cais i gofrestru ar gyfer TAW (os yw’n hysbys)

  • prif weithgarwch eich busnes — dewiswch ba fath o fusnes (yn agor tudalen Saesneg) sy’n disgrifio’ch busnes chi orau (os yw’ch busnes yn cwmpasu mwy nag un sector, dewiswch y math o fusnes sy’n cynhyrchu’r trosiant mwyaf)

  • canran eich cyfradd unffurf — defnyddiwch y gyfradd unffurf lawn ar gyfer eich math o fusnes (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os ydych yn gymwys i weithredu’r gostyngiad o 1%

  • eich dyddiad dechrau — fel arfer, dyma’r dyddiad y dechreuodd y cyfnod TAW ar ôl i’ch cais ddod i law (os hoffech ddechrau defnyddio’r cynllun o ddyddiad arall, nodwch y dyddiad hwnnw a’ch rheswm dros ei ddewis)

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).

Gwneud cais i ymuno

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen VAT600FRS.

  3. Ar ôl ei llenwi, argraffwch y ffurflen a’i hanfon at CThEF drwy’r post gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen, neu gallwch ei hanfon drwy e-bost i frsapplications.vrs@hmrc.gov.uk.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF.

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd CThEF yn eich hysbysu’n ysgrifenedig os bydd eich cais yn llwyddiannus. Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i chi y dyddiad y gallwch ddechrau defnyddio’r cynllun. Fel arfer, dyma’r dyddiad y dechreuodd y cyfnod TAW ar ôl i’ch cais ddod i law.

Os byddwch yn gofyn am ddyddiad dechrau cynharach, neu ddyddiad dechrau hwyrach, bydd CThEF yn ystyried yr holl ffeithiau gan gynnwys amseriad eich cais a’ch cofnod cydymffurfio.

Fel arfer, ni fydd CThEF yn eich galluogi i ddefnyddio’r cynllun hwn ar gyfer cyfnodau cynharach lle’r ydych eisoes wedi cyfrifo’ch rhwymedigaeth TAW.

Os nad ydych yn cael ymateb

Os na fyddwch yn clywed gan CThEF cyn pen 30 diwrnod calendr, cysylltwch â CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 September 2014

Sign up for emails or print this page